Ymhen tua mis aeth Nahas yr Ammoniad i fyny a gwersyllu yn erbyn Jabes-gilead. Dywedodd holl wu375?r Jabes wrth Nahas, "Gwna gytundeb ni, ac fe'th wasanaethwn."
Yna meddai henuriaid Jabes wrtho, "Rho inni egwyl o wythnos i anfon negeswyr drwy derfynau Israel i gyd, ac os na chawn neb i'n gwaredu, down allan atat."
Cymerodd yr ychen a'u darnio a'u hanfon drwy holl derfynau Israel yn llaw y negeswyr gyda'r neges, "Pwy bynnag na ddaw allan ar l Saul a Samuel, dyma a wneir i'w ychen." Syrthiodd ofn oddi wrth yr ARGLWYDD ar y genedl, a daethant allan fel un.
A dywedwyd wrth y negeswyr a ddaeth o Jabes, "Dywedwch wrth bobl Jabes-gilead, 'Erbyn canol dydd yfory cewch waredigaeth.'" Pan gyrhaeddodd y negeswyr a dweud wrth bobl Jabes, bu llawenydd.
Trannoeth, rhannodd Saul y bobl yn dair mintai, a daethant i ganol y gwersyll yn ystod y wyliadwriaeth fore a tharo'r Ammoniaid hyd ganol dydd; chwalwyd y gweddill oedd ar l, fel nad oedd dau ohonynt gyda'i gilydd.
Felly aeth y bobl i gyd i Gilgal, a gwneud Saul yn frenin yno yn Gilgal yng ngu373?ydd yr ARGLWYDD, ac aberthu heddoffrymau yno o flaen yr ARGLWYDD. A bu Saul a holl wu375?r Israel yn llawen iawn yno.