Un diwrnod, heb yngan gair wrth ei dad, dywedodd Jonathan fab Saul wrth y gwas oedd yn cludo'i arfau, "Tyrd, awn drosodd at wylwyr y Philistiaid sydd acw gyferbyn ni."
Yn y bwlch lle'r oedd Jonathan yn ceisio croesi tuag at wylwyr y Philistiaid yr oedd clogwyn o graig ar y naill ochr a'r llall; Boses oedd enw'r naill a Senne oedd enw'r llall.
Dywedodd Jonathan wrth y gwas oedd yn cludo'i arfau, "Tyrd, awn drosodd at y gwylwyr dienwaededig acw; efallai y bydd yr ARGLWYDD yn gweithio o'n plaid, oherwydd nid oes dim i rwystro'r ARGLWYDD rhag gwaredu trwy lawer neu drwy ychydig."
A gwaeddodd dynion yr wyliadwriaeth ar Jonathan a'i gludydd arfau, a dweud, "Dewch i fyny atom, i ni gael dangos rhywbeth i chwi." Dywedodd Jonathan wrth ei gludydd arfau, "Tyrd i fyny ar f'l i, oherwydd y mae'r ARGLWYDD wedi eu rhoi yn llaw Israel."
Dringodd Jonathan i fyny ar ei ddwylo a'i draed, gyda'i gludydd arfau ar ei l. Cwympodd y gwylwyr o flaen Jonathan, a daeth ei gludydd arfau ar ei l i'w dienyddio.
Galwyd y rhestr, a chael nad oedd Jonathan na'i gludydd arfau yno. Yna dywedodd Saul wrth Ahia, "Tyrd 'r effod." Oherwydd yr adeg honno ef oedd yn cludo'r effod o flaen Israel.
A dyma'r Hebreaid oedd gynt ar ochr y Philistiaid, ac wedi dod i fyny i'r gwersyll gyda hwy, yn troi ac yn ochri gyda'r Israeliaid oedd gyda Saul a Jonathan.
Ond aeth yn gyfyng ar yr Israeliaid y diwrnod hwnnw, oherwydd i Saul dynghedu'r bobl a dweud, "Melltigedig fyddo'r un sy'n bwyta tamaid cyn yr hwyr! Yr wyf am ddial ar fy ngelynion." Ac ni phrofodd yr un o'r bobl damaid.
Nid oedd Jonathan wedi clywed ei dad yn gwneud i'r bobl gymryd y llw, ac estynnodd y ffon oedd yn ei law a tharo'i blaen yn y diliau ml, ac yna'i chodi at ei geg; a gloywodd ei lygaid.
Yna dywedodd un o'r bobl wrtho, "Y mae dy dad wedi gosod llw caeth ar y bobl, ac wedi dweud, 'Melltigedig yw pob un sy'n bwyta tamaid heddiw'. Ac yr oedd y bobl yn lluddedig."
Pan ddywedwyd wrth Saul, "Edrych, y mae'r bobl yn pechu yn erbyn yr ARGLWYDD wrth fwyta cig heb ei waedu", dywedodd yntau, "Yr ydych wedi troseddu; rhowliwch yma garreg fawr ar unwaith."
Yna dywedodd Saul, "Ewch ar frys trwy ganol y bobl a dywedwch wrthynt, 'Doed pob un 'i ych neu ei ddafad ataf fi, a'u lladd yma a'u bwyta, rhag i chwi bechu yn erbyn yr ARGLWYDD trwy fwyta cig heb ei waedu'." Daeth pob un o'r bobl 'i ych gydag ef y noson honno, i'w ladd yno.
Yna dywedodd Saul, "Awn i lawr ar l y Philistiaid liw nos a'u hysbeilio hyd y bore, heb adael yr un ohonynt ar l." Dywedodd y bobl, "Gwna beth bynnag a fynni." Ond dywedodd yr offeiriad, "Gadewch inni agosu yma at Dduw."
Oherwydd, cyn wired bod yr ARGLWYDD yn fyw, yr un a waredodd Israel, hyd yn oed pe byddai yn fy mab Jonathan, byddai raid iddo farw." Ond ni ddywedodd yr un o'r bobl wrtho.
Yna dywedodd wrth yr holl Israeliaid, "Safwch chwi ar un ochr, a minnau a'm mab Jonathan ar yr ochr arall." A dywedodd y bobl wrth Saul, "Gwna fel y gweli'n dda."
Dywedodd Saul wrth yr ARGLWYDD, Duw Israel, "Pam nad atebaist dy was heddiw? Os yw'r camwedd hwn ynof fi neu yn fy mab Jonathan, O ARGLWYDD Dduw Israel, rho Wrim; ond os yw'r camwedd hwn yn dy bobl Israel, rho Twmim." Daliwyd Jonathan a Saul, ac aeth Israel yn rhydd.
Yna dywedodd Saul wrth Jonathan, "Dywed wrthyf beth a wnaethost." Eglurodd Jonathan iddo, a dweud, "Dim ond profi mymryn o fl ar flaen y ffon oedd yn fy llaw. Dyma fi, rwy'n barod i farw."
Ond dyma'r bobl yn dweud wrth Saul, "A gaiff Jonathan farw, ac yntau wedi ennill y fuddugoliaeth fawr hon i Israel? Pell y bo! Cyn wired bod yr ARGLWYDD yn fyw, ni chaiff blewyn o wallt ei ben syrthio i'r llawr. Gyda Duw y gweithiodd ef y diwrnod hwn." Prynodd y bobl ryddid Jonathan, ac ni fu farw.
Wedi i Saul ennill y frenhiniaeth ar Israel, ymladdodd 'i holl elynion oddi amgylch Moab, yr Ammoniaid, Edom, brenhinoedd Soba a'r Philistiaid a'u darostwng ble bynnag yr i.