Felly cymerodd Saul dair mil o wu375?r wedi eu dewis allan o Israel gyfan, a mynd i chwilio am Ddafydd a'i wu375?r ar hyd copa creigiau'r geifr gwylltion.
Pan ddaeth at gorlannau'r defaid ar y ffordd, yr oedd yno ogof, ac aeth Saul i mewn i esmwytho'i gorff; ond yr oedd Dafydd a'i wu375?r yno ym mhen draw'r ogof.
Ac meddai gwu375?r Dafydd wrtho, "Dyma'r diwrnod y dywedodd yr ARGLWYDD wrthyt y byddai'n rhoi dy elyn yn dy law, a chei wneud iddo beth a fynni." Cododd Dafydd yn ddistaw a thorrodd gwr y fantell oedd am Saul.
a dywedodd wrth ei ddynion, "Yr ARGLWYDD a'm gwared rhag imi wneud y fath beth i'm harglwydd, eneiniog yr ARGLWYDD, ac estyn llaw yn ei erbyn, oherwydd eneiniog yr ARGLWYDD yw."
Pan ymadawodd Saul 'r ogof a mynd i'w daith, aeth Dafydd allan o'r ogof a galw ar ei l a dweud, "F'arglwydd frenin!" A phan edrychodd Saul yn l, plygodd Dafydd 'i wyneb at y llawr ac ymgrymu.
Heddiw fe weli 'th lygaid dy hun i'r ARGLWYDD dy roi yn fy llaw heddiw yn yr ogof; a dywedwyd wrthyf am dy ladd, ond trugarheais wrthyt a dweud, 'Nid estynnaf fy llaw yn erbyn f'arglwydd, oherwydd eneiniog yr ARGLWYDD yw.'
Edrych, fy nhad, ie, edrych, dyma gwr dy fantell yn fy llaw. Gan imi dorri cwr dy fantell heb dy ladd, fe ddylit wybod a gweld nad oedd dim malais na gwrthryfel ynof. Ni wneuthum gam thi, ond eto yr wyt yn ymlid ar fy l i'm dal.