Aethant drwy fynydd-dir Effraim a thrwy ardal Salisa, ond heb eu cael; yna mynd drwy ardal Saalim, ond nid oedd dim o'u hanes yno; ac yna drwy diriogaeth Benjamin, ond eto heb eu cael.
Ac meddai'r gwas wrtho, "Edrych, y mae yma u373?r Duw yn y dref hon sy'n uchel ei glod, a phopeth a ddywed yn sicr o ddigwydd. Gad inni fynd ato, ac efallai y dywed wrthym pa ffordd y dylem fynd."
Ond dywedodd Saul wrth ei was, "A bwrw'n bod ni'n mynd, beth a ddygwn ni i'r dyn? Y mae hyd yn oed y bara yn ein paciau wedi darfod; nid oes gennym unrhyw rodd i'w chynnig i u373?r Duw. Beth sydd gennym?"
(Yn Israel gynt, fel hyn y dywedai rhywun wrth fynd i ymgynghori Duw, "Dewch ac awn at y gweledydd." Oherwydd gynt "gweledydd" oedd yr enw ar broffwyd.)
Os ewch i'r dref, fe'i daliwch cyn iddo fynd i'r uchelfa i fwyta; oherwydd ni fydd y bobl yn dechrau bwyta nes iddo gyrraedd, gan mai ef sy'n bendithio'r aberth cyn i'r gwahoddedigion fwyta. Ewch i fyny, ac fe'i cewch ar unwaith."
"Yr adeg yma yfory anfonaf atat ddyn o diriogaeth Benjamin, i'w eneinio'n dywysog ar fy mhobl Israel, ac fe wareda fy mhobl o law'r Philistiaid; oherwydd gwelais drueni fy mhobl, a daeth eu cri ataf."
Atebodd Samuel, "Fi yw'r gweledydd; dos i fyny o'm blaen i'r uchelfa; cei fwyta gyda mi heddiw, a gollyngaf di ymaith yfory ar l dweud wrthyt bopeth sydd yn dy galon.
Ac am yr asennod sydd ar goll gennyt ers tridiau, paid phoeni amdanynt, oherwydd cafwyd hwy. I bwy y mae popeth dymunol yn Israel? Onid i ti a'th holl deulu?"
Atebodd Saul, "Onid un o Benjamin wyf fi, o'r lleiaf o lwythau Israel? A'm tylwyth i yw'r distatlaf o holl dylwythau llwyth Benjamin. Pam, felly, yr wyt yn siarad fel hyn mi?"
Dygodd y cogydd y glun a'r hyn oedd arni, a'i gosod gerbron Saul a dweud, "Dyma'r hyn a gadwyd ar dy gyfer; bwyta, oherwydd fe'i cadwyd iti ar gyfer yr amser penodedig, i'w fwyta gyda'r gwahoddedigion." Bwytaodd Saul y diwrnod hwnnw gyda Samuel.
Pan dorrodd y wawr, galwodd Samuel ar Saul, ac yntau ar y to, a dweud, "Cod, imi gael dy anfon ymaith." Ac wedi i Saul godi, aeth y ddau allan, Samuel ac yntau.