× Iaith Ewrop Rwsieg Belarwseg Wcreineg Pwyleg Serbeg Bwlgareg Slofacia Tsiec Rwmaneg Moldofia Azerbaijan Armeneg Sioraidd Albaneg Avar Bashkir Tatar Chechen Slofeneg Croateg Estoneg Latfieg Lithwaneg Hwngareg Ffindir Norwy Swedeg Islandeg Groeg Macedoneg Almaeneg Bafaraidd Iseldireg Daneg Cymraeg Gaeleg Gwyddeleg Ffrangeg Basgeg Catalaneg Eidaleg Galacian Romani Bosnian Kabardian Gogledd America Saesneg De America Sbaeneg Portiwgaleg Gwarant Quechua Aymara Canol America Jamaicaidd Nahuatl Kiche Q'eqchi Haitian Dwyrain Asia Tsieineaidd Siapan Corea Mongoleg Uyghur Hmong Tibetian De Ddwyrain Asia Malaysia Burma Hakha Chin Nepali Cebuano Tagal Cambodieg Thai Indonesieg Sundaneg Fietnameg Jafanese Lao Iban IuMien Kachin Lahu Aceh Balinese Bugis Pampanga Sasak Shan Waray Madurese De Asia Hindi Оdia Awadhi Mizo Kannada Malayalam Marathi Gwjarati Tamil Telugu Pwnjabeg Kurukh Asameg Maithili Bengalaidd Wrdw Sinhala Dogri Haryanvi Meitei Concani Santali Sindhi Koya Thado Sanskrit Devanagari Adilabad Gondi Ahirani Balochi Bundeli Chhattisgarhi Garhwali Kangri Kumaoni Mewari Munda Sadri Seraiki Shekhawati Sylheti Bagri Bhilali Bodo Braj Tulu Canol Asia Cirgise Wsbeceg Tajice Turkmen Kazakstan Karakalpak Y Dwyrain Canol Twrceg Hebraeg Arabeg Perseg Cwrdaidd Mazanderani Pashto Goptaidd Affrica Affricaneg Xhosa Zwlw Ndebele Sotho Amhareg Wolaytta Nigeraidd Mossi Ika Dinka Kabyle Mamogiaid Swahili Morocco Somalïaidd Shona Fadagascar Igbo Lingala Baoule Siswati Tsonga Tswana Gambia Yoruba Kamba Kinyarwanda Hausa Chewa Luo Makua Dyula Fulfulde Kalenjin Kikuyu Kikwango Kirundi Krio Pidgin Nigeria Oromo Tshiluba Tshivenda Twi Umbundu Lugbara Luguru Pular Gussi Maasai Turkana Moba Nuer Shilluk Tamasheq Makonde Bemba Fon Hadiyya Ibibio Kimbundu Kimiiru Lango Liberian Kreyol Lomwe Mende Morisyen Ndau Nyankole Sena Sidamo Soga Songe Sukuma Tarifit Teso Tiv Zande Dagbani Edo Kituba Cyfandir Awstralia Seland Newydd Papwa Gini Newydd Hen Ieithoedd Aramaeg Lladin Esperanto 1 1 1 Diwygiedig 2004 BNET 2021Diwygiedig 2004Argraffiad 1955Cyfieithiad 1945Cyfieithiad 18941 1 1 2 Samuel GenesisExodusLefiticusNumeriDeuteronomiumJosuaBarnwyrRuth1 Samuel2 Samuel1 Brenhinoedd2 Brenhinoedd1 Cronicl2 CroniclEzraNehemeiaEstherJobSalmauDiarhebionPregethwrCaniad SolomonEseiaJeremeiaGalarnadEsecielDanielHoseaJoelAmosObadeiaJonaMichaNahumHabacucSeffaneiaHaggaiSechareiaMalachi--- --- ---MathewMarcLucIoanActau'r ApostolionRhufeiniaid1 Corinthiaid2 CorinthiaidGalatiaidEffesiaidPhilipiaidColosiaid1 Thesaloniaid2 Thesaloniaid1 Timotheus2 TimotheusTitusPhilemonHebreaidIago1 Pedr2 Pedr1 Ioan2 Ioan3 IoanJwdasDatguddiad Ioan1 1 1 18 1234567891011121314151617181920212223241 1 1 : 1 1234567891011121314151617181920212223242526272829303132331 1 1 Beibl Cymraeg Newydd 2004 2 Samuel 18 Cadw Nodiadau 1Rhestrodd Dafydd y bobl oedd gydag ef, a phenodi capteiniaid ar filoedd a chapteiniaid ar gannoedd.2Yna rhannodd y fyddin yn dair, traean o dan Joab, traean dan Abisai fab Serfia, brawd Joab, a thraean dan Itai y Gethiad; a dywedodd y brenin wrth y fyddin, "Mi ddof finnau hefyd gyda chwi."3Ond atebasant, "Ni chei di ddod. Petaem ni yn ffoi am ein heinioes, ni fyddai neb yn meddwl dim o'r peth; a phetai ein hanner yn marw, ni fyddai neb yn malio amdanom; ond yr wyt ti cystal deng mil ohonom ni. Felly'n awr y mae'n well i ni dy fod yn aros i'n cynorthwyo o'r ddinas."4Dywedodd y brenin y gwni'r hyn a dybient hwy yn orau, a safodd yn ymyl y porth fel yr oedd y fyddin yn mynd allan yn ei channoedd a'i miloedd.5Gorch-mynnodd y brenin i Joab, Abisai ac Itai, "Er fy mwyn i byddwch yn dyner wrth y llanc Absalom." Yr oedd y fyddin i gyd yn clywed pan roes y brenin orchymyn i'r capteiniaid ynglu375?n ag Absalom.6Aeth y fyddin i'r maes i gyfarfod ag Israel, a digwyddodd y frwydr yng nghoetir Effraim.7Gorchfygwyd byddin Israel yno gan ddilynwyr Dafydd, a bu colledion mawr yno ugain mil o fewn y diwrnod hwnnw.8Lledodd yr ymladd dros y wlad i gyd, a difaodd y goedwig fwy o'r fyddin nag a wnaeth y cleddyf y diwrnod hwnnw.9Digwyddodd dilynwyr Dafydd daro ar Absalom. Fel yr oedd Absalom yn marchogaeth ar ei ful, aeth hwnnw dan gangen derwen fawr; daliwyd pen Absalom yn y dderwen, a'i adael rhwng nef a daear wrth i'r mul oedd dano fynd yn ei flaen.10Gwelodd rhywun ef, a dweud wrth Joab ei fod wedi gweld Absalom ynghrog mewn derwen.11Ac meddai Joab wrth y dyn oedd wedi dweud wrtho, "Os gwelaist ti ef, pam na fu iti ei daro i lawr yn y fan? Fe fyddwn wedi gofalu am roi iti ddeg darn arian a gwregys."12Ond dywedodd y dyn wrth Joab, "Petawn i'n cael mil o ddarnau arian ar gledr fy llaw, ni feiddiwn estyn llaw yn erbyn mab y brenin; oherwydd fe glywsom 'n clustiau ein hunain pan roddodd y brenin orchymyn i ti ac i Abisai ac i Itai, a dweud, 'Cymerwch ofal, bawb, o'r llanc Absalom.'13Pe bawn i wedi troseddu yn erbyn ei einioes, ni fyddai modd cuddio dim rhag y brenin; a byddit tithau wedi sefyll o'r naill ochr."14Atebodd Joab, "Nid wyf am wastraffu amser fel hyn gyda thi." Cymerodd dair picell yn ei law a thrywanu Absalom yn ei galon, ac yntau'n dal yn fyw yng nghanol y dderwen.15Yna tyrrodd deg llanc oedd yn gofalu am arfau Joab o gwmpas Absalom, a'i daro a'i ladd.16Ar hyn canodd Joab yr utgorn, a dychwelodd y fyddin o erlid yr Israeliaid am i Joab eu galw'n l.17Cymerwyd Absalom a'i fwrw i geubwll mawr oedd yn y goedwig, a chodi tomen enfawr o gerrig drosto. Ffodd yr Israeliaid i gyd adref.18Yn ystod ei fywyd yr oedd Absalom wedi cymryd colofn a'i gosod i sefyll yn Nyffryn y Brenin, "Oherwydd," meddai, "nid oes gennyf fab i gadw f'enw mewn cof." Galwodd y golofn ar ei enw ei hun, ac fe'i gelwir hi'n Gofeb Absalom hyd heddiw.19Dywedodd Ahimaas fab Sadoc, "Gad i mi redeg a rhoi'r newydd i'r brenin fod yr ARGLWYDD wedi achub ei gam oddi ar law ei elynion."20Ond dywedodd Joab wrtho, "Nid ti fydd y negesydd heddiw; cei fynd 'r neges rywdro arall, ond nid heddiw, oherwydd bod mab y brenin wedi marw."21Yna meddai Joab wrth ryw Ethiopiad, "Dos, dywed wrth y brenin yr hyn a welaist." Moes-ymgrymodd yr Ethiopiad i Joab a rhedodd ymaith.22Ond gwnaeth Ahimaas fab Sadoc gais arall, ac meddai wrth Joab, "Beth bynnag a ddigwydd, yr wyf finnau hefyd am gael rhedeg ar l yr Ethiopiad." Gofynnodd Joab, "Pam y mae arnat ti eisiau mynd, fy machgen? Ni chei wobr am ddwyn y neges."23Ond plediodd, "Sut bynnag y bydd, gad imi fynd." Felly dywedodd wrtho, "Dos, ynteu." Rhedodd Ahimaas ar hyd y gwastadedd, ac ennill y blaen ar yr Ethiopiad.24Yr oedd Dafydd yn eistedd rhwng y ddeuborth. Pan aeth gwyliwr i fyny uwchben y porth i ben y mur, a chodi ei lygaid ac edrych, dyna lle'r oedd dyn yn rhedeg ar ei ben ei hun.25Galwodd y gwyliwr a hysbysu'r brenin. Atebodd y brenin, "Os yw ar ei ben ei hun, y mae'n dod neges."26Fel yr oedd yn dal i agosu, sylwodd y gwyliwr ar ddyn arall yn rhedeg, a galwodd i lawr at y porthor a dweud, "Dacw ddyn arall yn rhedeg ar ei ben ei hun." Dywedodd y brenin, "Negesydd yw hwn eto."27Yna dywedodd y gwyliwr, "Yr wyf yn gweld y cyntaf yn rhedeg yn debyg i Ahimaas fab Sadoc." Ac meddai'r brenin, "Dyn da yw hwnnw; daw ef newyddion da,"28Pan gyrhaeddodd Ahimaas, dywedodd wrth y brenin, "Heddwch!" Yna moesymgrymodd i'r brenin 'i wyneb i'r llawr, a dweud, "Bendigedig fyddo'r ARGLWYDD dy Dduw, sydd wedi cau am y dynion a gododd yn erbyn f'arglwydd frenin."29Gofynnodd y brenin, "A yw'r llanc Absalom yn iawn?" Ac meddai Ahimaas, "Yr oedd dy was yn gweld cynnwrf mawr pan anfonodd Joab, gwas y brenin, fi i ffwrdd, ond ni wn beth oedd."30Dywedodd y brenin, "Saf yma o'r neilltu." Felly safodd o'r neilltu.31Yna cyrhaeddodd yr Ethiopiad a dweud, "Newydd da, f'arglwydd frenin! Oherwydd y mae'r ARGLWYDD wedi achub dy gam heddiw yn erbyn yr holl rai oedd yn codi yn dy erbyn."32Gofynnodd y brenin i'r Ethiopiad, "A yw'r llanc Absalom yn iawn?" Atebodd yr Ethiopiad, "Bydded i elynion f'arglwydd frenin a phawb sy'n codi yn d'erbyn er drwg, fod fel y llanc."33Cynhyrfodd y brenin, ac aeth i fyny i'r llofft uwchben y porth ac wylo; ac wrth fynd, yr oedd yn dweud fel hyn, "O Absalom fy mab, fy mab Absalom! O na fyddwn i wedi cael marw yn dy le, O Absalom fy mab, fy mab!"Welsh Bible 2004 © Cymdeithas y Beibl 2004 © British and Foreign Bible Society 2004 Beibl Cymraeg Newydd 2004 2 Samuel 18 00:00:00 00:00:00 0.5x 2.0x https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh/2samuel/018.mp3 24 18