× Iaith Ewrop Rwsieg Belarwseg Wcreineg Pwyleg Serbeg Bwlgareg Slofacia Tsiec Rwmaneg Moldofia Azerbaijan Armeneg Sioraidd Albaneg Avar Bashkir Tatar Chechen Slofeneg Croateg Estoneg Latfieg Lithwaneg Hwngareg Ffindir Norwy Swedeg Islandeg Groeg Macedoneg Almaeneg Bafaraidd Iseldireg Daneg Cymraeg Gaeleg Gwyddeleg Ffrangeg Basgeg Catalaneg Eidaleg Galacian Romani Bosnian Gogledd America Saesneg De America Sbaeneg Portiwgaleg Gwarant Quechua Aymara Canol America Jamaicaidd Nahuatl Kiche Q'eqchi Haitian Dwyrain Asia Tsieineaidd Siapan Corea Mongoleg Uyghur Hmong De Ddwyrain Asia Malaysia Burma Hakha Chin Nepali Cebuano Tagal Cambodieg Thai Indonesieg Fietnameg Jafanese Lao Iban IuMien Kachin Lahu Aceh Balinese Bugis Pampanga Sasak Shan Waray De Asia Hindi Оdia Awadhi Mizo Kannada Malayalam Marathi Gwjarati Tamil Telugu Pwnjabeg Kurukh Asameg Maithili Bengalaidd Wrdw Sinhala Dogri Haryanvi Meitei Concani Santali Sindhi Koya Thado Sanskrit Devanagari Adilabad Gondi Ahirani Balochi Bundeli Chhattisgarhi Garhwali Kangri Kumaoni Mewari Munda Sadri Seraiki Shekhawati Sylheti Canol Asia Cirgise Wsbeceg Tajice Turkmen Kazakstan Karakalpak Y Dwyrain Canol Twrceg Hebraeg Arabeg Perseg Cwrdaidd Pashto Goptaidd Affrica Affricaneg Xhosa Zwlw Ndebele Sotho Amhareg Wolaytta Nigeraidd Mossi Ika Dinka Kabyle Mamogiaid Swahili Morocco Somalïaidd Shona Fadagascar Igbo Lingala Baoule Siswati Tsonga Tswana Gambia Yoruba Kamba Kinyarwanda Hausa Chewa Luo Makua Dyula Fulfulde Kalenjin Kikuyu Kikwango Kirundi Krio Pidgin Nigeria Oromo Tshiluba Tshivenda Twi Umbundu Lugbara Luguru Pular Gussi Maasai Turkana Moba Nuer Shilluk Tamasheq Makonde Bemba Fon Hadiyya Ibibio Kimbundu Kimiiru Lango Liberian Kreyol Lomwe Mende Morisyen Ndau Nyankole Sena Sidamo Soga Songe Sukuma Tarifit Teso Tiv Zande Dagbani Cyfandir Awstralia Seland Newydd Papwa Gini Newydd Hen Ieithoedd Aramaeg Lladin Esperanto 1 1 1 BNET 2021 BNET 2021Diwygiedig 2004Argraffiad 1955Cyfieithiad 1945Cyfieithiad 18941 1 1 Mathew GenesisExodusLefiticusNumeriDeuteronomiumJosuaBarnwyrRuth1 Samuel2 Samuel1 Brenhinoedd2 Brenhinoedd1 Cronicl2 CroniclEzraNehemeiaEstherJobSalmauDiarhebionPregethwrCaniad SolomonEseiaJeremeiaGalarnadEsecielDanielHoseaJoelAmosObadeiaJonaMichaNahumHabacucSeffaneiaHaggaiSechareiaMalachi--- --- ---MathewMarcLucIoanActau'r ApostolionRhufeiniaid1 Corinthiaid2 CorinthiaidGalatiaidEffesiaidPhilipiaidColosiaid1 Thesaloniaid2 Thesaloniaid1 Timotheus2 TimotheusTitusPhilemonHebreaidIago1 Pedr2 Pedr1 Ioan2 Ioan3 IoanJwdasDatguddiad Ioan1 1 1 1 123456789101112131415161718192021222324252627281 1 1 : 1 123456789101112131415161718192021222324251 1 1 Beibl Cymraeg 2021 Mathew 1 Cadw Nodiadau 1Rhestr achau Iesu y Meseia, oedd yn un o ddisgynyddion y Brenin Dafydd, ac Abraham hefyd:2Abraham oedd tad Isaac, Isaac oedd tad Jacob, Jacob oedd tad Jwda a'i frodyr,3Jwda oedd tad Peres a Sera (a Tamar oedd eu mam), Peres oedd tad Hesron, Hesron oedd tad Ram,4Ram oedd tad Aminadab, Aminadab oedd tad Nahson, Nahson oedd tad Salmon,5Salmon oedd tad Boas (a Rahab oedd ei fam), Boas oedd tad Obed (a Ruth oedd ei fam), Obed oedd tad Jesse,6a Jesse oedd tad y Brenin Dafydd. Dafydd oedd tad Solomon (ac roedd ei fam wedi bod yn wraig i Wreia),7Solomon oedd tad Rehoboam, Rehoboam oedd tad Abeia, Abeia oedd tad Asa,8Asa oedd tad Jehosaffat, Jehosaffat oedd tad Jehoram, Jehoram oedd tad Wseia,9Wseia oedd tad Jotham, Jotham oedd tad Ahas, Ahas oedd tad Heseceia,10Heseceia oedd tad Manasse, Manasse oedd tad Amon, Amon oedd tad Joseia,11a Joseia oedd tad Jechoneia a'i frodyr (a hynny ar yr adeg y cafodd yr Iddewon eu caethgludo i Babilon).12Ar ôl y gaethglud i Babilon: Jechoneia oedd tad Shealtiel, Shealtiel oedd tad Sorobabel,13Sorobabel oedd tad Abiwd, Abiwd oedd tad Eliacim, Eliacim oedd tad Asor,14Asor oedd tad Sadoc, Sadoc oedd tad Achim, Achim oedd tad Eliwd,15Eliwd oedd tad Eleasar, Eleasar oedd tad Mathan, Mathan oedd tad Jacob,16a Jacob oedd tad Joseff (gŵr Mair — y ferch gafodd Iesu, y Meseia, ei eni iddi).17Felly roedd un deg pedair cenhedlaeth o Abraham i'r Brenin Dafydd, un deg pedair cenhedlaeth o Dafydd hyd nes i'r Iddewon gael eu caethgludo i Babilon, ac un deg pedair cenhedlaeth o'r gaethglud i'r Meseia.18Dyma ddigwyddodd pan gafodd Iesu y Meseia ei eni: Roedd ei fam, Mair, wedi cael ei haddo i fod yn wraig i Joseff. Ond cyn iddyn nhw briodi a chael rhyw, dyma nhw'n darganfod fod yr Ysbryd Glân wedi ei gwneud hi'n feichiog.19Roedd Joseff, oedd yn mynd i'w phriodi, yn ddyn da a charedig. Doedd e ddim eisiau gwneud esiampl ohoni a'i chyhuddo hi'n gyhoeddus, felly roedd yn ystyried yn dawel fach i ganslo'r briodas.20Roedd wedi bod yn meddwl am hyn pan gafodd freuddwyd: gwelodd angel Duw yn dod ato a dweud wrtho, “Joseff fab Dafydd, paid petruso mynd â Mair adre i fod yn wraig i ti, am mai'r Ysbryd Glân sydd wedi gwneud iddi feichiogi.21Bachgen fydd hi'n ei gael. Rwyt i roi'r enw Iesu iddo, am mai fe fydd yn achub ei bobl o'u pechodau.”22Digwyddodd hyn er mwyn i beth ddwedodd Duw drwy ei broffwyd ddod yn wir:23“Edrychwch! Bydd merch ifanc sy'n wyryf yn feichiog ac yn cael mab. Bydd y plentyn yn cael ei alw yn Emaniwel” (Ystyr Emaniwel ydy “Mae Duw gyda ni.” )24Pan ddeffrodd Joseff, gwnaeth beth roedd angel Duw wedi ei ddweud wrtho. Priododd Mair,25ond chafodd e ddim rhyw hefo hi nes i'w mab gael ei eni. A rhoddodd yr enw Iesu iddo.Welsh Bible 2021 (BNET) © Cymdeithas y Beibl 2021 Beibl Cymraeg 2021 Mathew 1 00:00:00 00:00:00 0.5x 2.0x https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh2015/matthew/001.mp3 28 1