Beibl mewn un flwyddyn

1. Casglodd Dafydd i Jerwsalem holl swyddogion Israel, arweinwyr y llwythau, swyddogion y dosbarthiadau a oedd yn gwasanaethu'r brenin, capteiniaid y miloedd a'r cannoedd, arolygwyr holl eiddo a gwartheg y brenin a'i feibion, ynghyd 'r eunuchiaid, y rhyfelwyr a phob gu373?r nerthol.
2. Cododd y Brenin Dafydd ar ei draed a dweud, "Gwrandewch arnaf fi, fy mrodyr a'm pobl. Yr oeddwn 'm bryd ar adeiladu tu375?, yn orffwysfa i arch cyfamod yr ARGLWYDD ac yn droedfainc i'n Duw, a pharatoais i wneud hynny.
3. Ond dywedodd Duw wrthyf, 'Ni chei di adeiladu tu375? i mi, oherwydd buost yn rhyfelwr ac yn tywallt gwaed.'
4. Dewisodd ARGLWYDD Dduw Israel fyfi o'm holl deulu i fod yn frenin ar Israel am byth; dewisodd Jwda i arwain, ac o fewn Jwda fy nheulu i, ac o blith meibion fy nhad, i mi y rhoes y fraint o fod yn frenin ar Israel gyfan.
5. O'm holl feibion ac fe roddodd yr ARGLWYDD lawer ohonynt imi fe ddewisodd fy mab Solomon i eistedd ar orsedd frenhinol yr ARGLWYDD dros Israel.
6. Dywedodd wrthyf, 'Dy fab Solomon sydd i adeiladu fy nhu375? a'm cynteddau, oherwydd dewisais ef yn fab imi, a byddaf finnau'n dad iddo yntau.
7. Sefydlaf ei frenhiniaeth ef am byth, os bydd yn ymdrechu i gadw fy ngorchmynion a'm cyfreithiau fel y gwneir heddiw.'
8. Yn awr, yng ngu373?ydd holl Israel, sef cynulleidfa yr ARGLWYDD, ac yng nghlyw ein Duw ni, gofalwch gadw holl orchmynion yr ARGLWYDD eich Duw, er mwyn i chwi feddiannu'r wlad dda hon a'i gadael yn etifeddiaeth i'ch meibion am byth.
9. A thithau, Solomon fy mab, bydded i ti adnabod Duw dy dad, a'i wasanaethu ef chalon berffaith ac ysbryd ewyllysgar, oherwydd y mae'r ARGLWYDD yn chwilio pob calon ac yn deall holl ddychymyg y meddwl. Os ceisi ef, fe'i cei; ond os gwrthodi ef, bydd yntau'n dy wrthod dithau am byth.
10. Ystyria'n awr, oherwydd y mae'r ARGLWYDD wedi dy ddewis i adeiladu tu375? yn gysegr iddo; bydd gryf, a dechrau ar y gwaith."
11. Rhoddodd Dafydd i'w fab Solomon gynllun porth y deml, a'i hadeiladau, ei hystordai, ei goruwchystafelloedd, ei hystafelloedd mewnol a'r drugareddfa.
12. Rhoddodd iddo hefyd gynllun o'r cyfan a gafodd trwy'r ysbryd ynglu375?n chynteddau tu375?'r ARGLWYDD, yr holl ystafelloedd o'i gwmpas, trysordai tu375? Dduw a thrysordai'r pethau cysegredig.
13. Rhoddodd iddo gyfarwyddyd am ddosbarthiadau'r offeiriaid a'r Lefiaid, yr holl waith ynglu375?n thu375?'r ARGLWYDD, a'r holl lestri ar gyfer y gwasanaeth.
14. Pennodd bwysau'r aur ar gyfer yr offer aur, a'r arian ar gyfer yr offer arian a ddefnyddid yn y gwahanol wasanaethau:
15. pwysau'r aur ar gyfer y canwyllbrennau aur a'u lampau; pwysau'r arian ar gyfer y canwyll-brennau arian, yn l pwysau pob canhwyllbren a'i lampau, a'r defnydd a wneid ohonynt;
16. pwysau'r aur ar gyfer un o fyrddau'r bara gosod, ac arian ar gyfer y byrddau arian;
17. aur pur ar gyfer y ffyrch, y costrelau a'r dysglau; pwysau'r aur ar gyfer y cawgiau aur, a phwysau'r arian ar gyfer y cawgiau arian;
18. pwysau'r aur coeth ar gyfer allor yr arogldarth. Rhoddodd iddo hefyd gynllun cerbyd, a'r cerwbiaid aur oedd ag adenydd estynedig yn gorchuddio arch cyfamod yr ARGLWYDD.
19. "Hyn oll," meddai Dafydd, "a ysgrifennwyd gan law yr ARGLWYDD; fy nghyfrifoldeb i oedd deall sut yr oedd pob cynllun yn gweithio."
20. Yna dywedodd Dafydd wrth ei fab Solomon, "Bydd yn gryf a dewr, a dechrau ar y gwaith; paid ag ofni na digalonni, oherwydd y mae'r ARGLWYDD Dduw, fy Nuw i, gyda thi; ni fydd yn cefnu arnat na'th adael cyn iti orffen y cyfan sy'n angenrheidiol at wasanaeth tu375?'r ARGLWYDD.
21. Dyma ddosbarth-iadau'r offeiriaid a'r Lefiaid ar gyfer holl wasanaeth tu375? Dduw. Trwy gydol y gwaith fe fydd pob crefftwr ewyllysgar gyda thi, a bydd y swyddogion a'r holl bobl yn barod i ufuddhau iti."
1. Dywedodd y Brenin Dafydd wrth yr holl gynulleidfa, "Y mae fy mab Solomon, a ddewiswyd gan Dduw, yn ifanc a dibrofiad, ond y mae'r gwaith yn fawr oherwydd mai palas i'r ARGLWYDD Dduw, ac nid i fod dynol, yw hwn.
2. Yr wyf wedi paratoi hyd eithaf fy ngallu ar gyfer tu375? fy Nuw; rhoddais aur ar gyfer popeth aur, arian ar gyfer popeth arian, pres ar gyfer popeth pres, haearn ar gyfer popeth haearn a choed ar gyfer popeth o goed. Rhoddais hefyd feini onyx a meini i'w gosod, meini glas ac amryliw, gemau gwerthfawr o bob math, a llawer o alabastr.
3. Hefyd, am fy mod yn ymhyfrydu yn nhu375? fy Nuw, yr wyf wedi rhoi fy nhrysor personol o aur ac arian i du375? fy Nuw;
4. ar ben y cwbl, yr wyf wedi paratoi ar gyfer y cysegr dair mil o dalentau o aur Offir a saith mil o dalentau o arian coeth, i'w rhoi'n haenau ar barwydydd y tai,
5. yr aur ar gyfer popeth aur, a'r arian ar gyfer popeth arian, ac ar gyfer holl waith y rhai celfydd. Pwy sy'n barod i ymgysegru o'i wirfodd i'r ARGLWYDD heddiw?"
6. Yna rhoddodd arweinwyr y teuluoedd, penaethiaid llwythau Israel, capteiniaid y miloedd a'r cannoedd, a swyddogion gwaith y brenin i gyd offrwm gwirfodd.
7. Rhoesant at waith tu375? Dduw bum mil o dalentau aur, deng mil o ddariciau, deng mil o dalentau arian, deunaw mil o dalentau pres a chan mil o dalentau haearn.
8. Yr oedd pob un a feddai emau gwerthfawr yn eu rhoi yn nhrysordy tu375?'r ARGLWYDD a oedd dan ofal Jehiel y Gersoniad.
9. Yr oedd eu haelioni yn achos llawenydd i'r bobl am eu bod yn offrymu i'r ARGLWYDD o'u gwirfodd ac chalon berffaith.
10. Yr oedd y Brenin Dafydd hefyd yn llawen iawn. Bendithiodd yr ARGLWYDD o flaen yr holl gynulleidfa a dweud, "Bendigedig wyt ti, ARGLWYDD Dduw Israel ein tad, o dragwyddoldeb hyd dragwyddoldeb.
11. I ti, ARGLWYDD, y perthyn mawredd, gallu, gogoniant, ysblander a mawrhydi; oherwydd y mae popeth yn y nefoedd ac ar y ddaear yn eiddo i ti; ti, ARGLWYDD, biau'r deyrnas, ac fe'th ddyrchafwyd yn ben ar y cwbl.
12. Oddi wrthyt ti y daw cyfoeth ac anrhydedd, a thi sy'n arglwyddiaethu ar bopeth; yn dy law di y mae nerth a chadernid, a thi sy'n rhoi cynnydd a chryfder i bob dim.
13. Yn awr, ein Duw, moliannwn di a chlodforwn dy enw gogoneddus.
14. Oherwydd pwy wyf fi a'm pobl i fedru rhoi o'n gwirfodd fel hyn? Canys oddi wrthyt ti y daw popeth, ac o'th eiddo dy hun y rhoesom iti.
15. Dieithriaid ac alltudion ydym ni yn dy olwg, fel ein holl hynafiaid; y mae ein dyddiau ar y ddaear fel cysgod, a heb obaith.
16. ARGLWYDD ein Duw, eiddot ti yw'r holl gyfoeth hwn a phopeth arall a roesom o'r neilltu i adeiladu tu375? iti er anrhydedd i'th enw sanctaidd.
17. Gwn, fy Nuw, dy fod yn profi'r galon ac yn ymhyfrydu mewn cyfiawnder. chalon uniawn yr offrymais o'm gwirfodd yr holl bethau hyn; ac yn awr gwelais dy bobl sydd wedi ymgynnull yma yn offrymu iti yn llawen ac o'u gwirfodd.
18. ARGLWYDD Dduw Abraham, Isaac ac Israel, ein tadau, cadw'r dyhead hwn yng nghalon dy bobl am byth, a thro eu calon atat.
19. Rho galon berffaith i Solomon fy mab, iddo gadw dy orchmynion, dy dystiolaethau a'th ddeddfau, a'u gwneud bob un, ac iddo adeiladu'r deml a ddarperais i."
20. Dywedodd Dafydd hefyd wrth yr holl dyrfa, "Yn awr bendithiwch yr ARGLWYDD eich Duw." Yna bendithiodd yr holl gynulleidfa ARGLWYDD Dduw eu hynafiaid trwy ymostwng ac ymgrymu i'r ARGLWYDD ac i'r brenin.
21. Trannoeth aberthasant i'r ARGLWYDD ac offrymu iddo boethoffrymau, sef mil o ychen, mil o hyrddod, mil o u373?yn, ynghyd 'u diodoffrymau a llawer iawn o aberthau dros holl Israel.
22. Buont yn bwyta ac yn yfed o flaen yr ARGLWYDD y diwrnod hwnnw llawenydd mawr. Gwnaethant Solomon fab Dafydd yn frenin yr ail waith, a'i eneinio ef yn arweinydd i'r ARGLWYDD, a Sadoc yn offeiriad.
23. Felly eisteddodd Solomon ar orsedd yr ARGLWYDD yn frenin yn lle Dafydd ei dad; cafodd lwyddiant, a bu holl Israel yn ufudd iddo.
24. Rhoddodd yr holl swyddogion a'r rhyfelwyr, a phob un o feibion y Brenin Dafydd, wrogaeth i'r Brenin Solomon.
25. Dyrchafodd yr ARGLWYDD Solomon yn uchel iawn yng ngolwg holl Israel, a rhoi iddo fawrhydi brenhinol na welwyd mo'i debyg gan unrhyw un o frenhinoedd Israel o'i flaen.
26. Teyrnasodd Dafydd fab Jesse ar Israel gyfan am ddeugain mlynedd;
27. bu'n frenin am saith mlynedd yn Hebron a thair ar ddeg ar hugain yn Jerwsalem.
28. Bu farw'n hen u373?r mewn oedran teg, yn berchen ar gyfoeth ac yn llawn anrhydedd; a theyrnasodd ei fab Solomon yn ei le.
29. Y mae hanes y Brenin Dafydd o'r dechrau i'r diwedd, wedi ei ysgrifennu yng Nghronicl Samuel y gweledydd, Cronicl Nathan y proffwyd, a Chronicl Gad y gweledydd;
30. yno hefyd ceir hanes ei frenhiniaeth a'i wrhydri, a'r cyfnod yr oedd ef, ac Israel, a holl deyrnasoedd y byd, yn perthyn iddo.
67. Gwrthododd babell Joseff, ac ni ddewisodd lwyth Effraim;
68. ond dewisodd lwyth Jwda, a Mynydd Seion y mae'n ei garu.
69. Cododd ei gysegr cyn uched 'r nefoedd, a'i sylfeini, fel y ddaear, am byth.
70. Dewisodd Ddafydd yn was iddo, a'i gymryd o'r corlannau defaid;
71. o fod yn gofalu am y mamogiaid daeth ag ef i fugeilio'i bobl Jacob, ac Israel ei etifeddiaeth.
72. Bugeiliodd hwy chalon gywir, a'u harwain llaw ddeheuig.
6. Y mae llawer un yn honni bod yn deyrngar, ond pwy a all gael dyn ffyddlon?
7. Y mae'r cyfiawn yn rhodio'n gywir; gwyn eu byd ei blant ar ei l!
24. A thrannoeth, cyrhaeddodd Gesarea. Yr oedd Cornelius yn eu disgwyl, ac wedi galw ynghyd ei berthnasau a'i gyfeillion agos.
25. Wedi i Pedr ddod i mewn, aeth Cornelius i'w gyfarfod, a syrthiodd wrth ei draed a'i addoli.
26. Ond cododd Pedr ef ar ei draed, gan ddweud, "Cod; dyn wyf finnau hefyd."
27. A than ymddiddan ag ef aeth i mewn, a chael llawer wedi ymgynnull,
28. ac meddai wrthynt, "Fe wyddoch chwi ei bod yn anghyfreithlon i Iddew gadw cwmni gydag estron neu ymweld ag ef; eto dangosodd Duw i mi na ddylwn alw neb yn halogedig neu'n aflan.
Welsh Bible 2004
Cymdeithas y Beibl 2004 British and Foreign Bible Society 2004