Beibl mewn un flwyddyn

23. Ac wedi iddo ddyfod i'r Deml, yr Archoffeiriaid a Henuriaid y bobl a ddaethant ato, ac efe yn dysgu, gan ddywedyd, Trwy ba awdurdod yr wyt ti yn gwneuthur y pethau hyn? a phwy a roddodd i ti yr awdurdod hon?
24. A'r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Gofynaf finau hefyd i chwithau un gair, yr hwn os mynegwch i mi, minau hefyd a fynegaf i chwi drwy ba awdurdod yr wyf yn gwneuthur y pethau hyn:
25. Bedydd Ioan, o ba le yr oedd? O'r Nef, ai o ddynion? A hwy a ymresymasant yn eu plith eu hunain, gan ddywedyd, Os dywedwn, O'r Nef, efe a ddywed wrthym, Paham, gan hyny, na chredasoch ef?
26. Eithr os dywedwn, O ddynion, y mae arnom ofn y dyrfa, canys y mae pawb yn cymmeryd Ioan fel proffwyd.
27. A hwy a atebasant i'r Iesu, ac a ddywedasant, Ni wyddom ni. Ac yntau a ddywedodd wrthynt, Nid wyf finau yn dywedyd i chwi drwy ba awdurdod yr wyf yn gwneuthur y pethau hyn.
28. Ond beth dybygwch chwi? Yr oedd gan wr ddau fab: ac efe a ddaeth at y cyntaf, ac a ddywedodd, O Fab, dos, gweithia heddyw yn y winllan.
29. Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Nid âf; ond wedi hyny yr oedd yn ddrwg ganddo, ac a aeth.
30. Ac efe a aeth at yr ail, ac a ddywedodd yr un modd. Ac efe a atebodd ac a ddywedodd, Mi a âf, Arglwydd; ac nid aeth efe.
31. Pa un o'r ddau a wnaeth ewyllys y tâd? Dywedasant, Y cyntaf. Yr Iesu a ddywed wrthynt, Yn wir meddaf i chwi yr ä y Trethgasglwyr a'r puteiniaid i Deyrnas Dduw o'ch blaen chwi.
32. Canys daeth Ioan atoch yn ffordd cyfiawnder, ac ni chredasoch ef; ond y Treth‐gasglwyr a'r puteiniaid a'i credasant ef; a chwithau, pan welsoch hyn, ni fu hyd y nod ddrwg genych ar ol hyny, fel y credech ef.
33. Gwrandewch ddammeg arall: Yr oedd gwr, perchenog tŷ, yr hwn a blanodd winllan, ac a osododd glawdd o'i hamgylch hi, ac a gloddiodd ynddi win‐wasg, ac a adeiladodd dŵr, ac a'i gosododd hi allan i lafurwyr, ac a aeth i wlad arall.
34. A phan neshaodd tymhor y ffwythau, efe a ddanfonodd ei weision at y llafurwyr i dderbyn ei ffrwythau.
35. A'r llafurwyr a gymmerasant ei weision ef, ac un a gurasant, ac arall a laddasant, ac arall a labyddiasant.
36. Trachefn, efe a anfonodd weision ereill, fwy nâ'r rhai cyntaf, a hwy a wnaethant iddynt yr un modd.
37. Ac yn ddiweddaf, efe a anfonodd atynt ei fab ei hun, gan ddywedyd, Hwy a barchant fy mab.
38. Eithr pan welodd y llafurwyr y mab, hwy a ddywedasant yn eu plith eu hunain, Hwn yw yr etifedd: deuwch, lladdwn ef, a chymmerwn ei etifeddiaeth ef.
39. Ac wedi iddynt ei gymmeryd, hwy a'i bwriasant ef allan o'r winllan, ac a'i lladdasant.
40. Am hyny, pan ddel arglwydd y winllan, pa beth a wna efe i'r llafurwyr hyny?
41. Hwy a ddywedant wrtho, Rai drwg, yn llwyr y dyfetha efe hwynt, ac a esyd y winllan allan i lafurwyr ereill, y cyfryw a dalant iddo y ffrwythau yn eu tymhorau.
42. A'r Iesu a ddywed wrthynt, Oni ddarllenasoch chwi erioed yn yr Ysgrythyrau, Maen a wrthododd yr adeiladwyr, Hwn a wnaethpwyd yn ben congl; Oddiwrth yr Arglwydd y bu hyn, A rhyfedd yw yn ein golwg ni.
43. Am hyny, meddaf i chwi, dygir Teyrnas Dduw oddiarnoch chwi, a rhoddir hi i genedl a ddygo ei ffrwythau hi.
44. A'r hwn a syrthio ar y maen hwn a chwilfriwir yn ddarnau; eithr ar bwy bynag y syrthio, efe a'i chwal fel llwch.
45. A phan glybu yr Archoffeiriaid a'r Phariseaid ei ddammegion ef, hwy a wybuant mai am danynt hwy y dywedai efe.
46. A hwy yn ceisio ei ddal, hwy a ofnasant y torfeydd, gan eu bod yn ei gymmeryd ef yn broffwyd.
Welsh Bible 1894
Cyfieithiad Newydd o'r Testament Newydd gyda Nodiadau gan Dr William Edwards. Cyhoeddwyd mewn 4 cyfrol 1894-1915