Beibl mewn un flwyddyn

1. Yna aeth Moses ymlaen a llefaru'r geiriau hyn wrth Israel gyfan:
2. Yr wyf fi bellach yn gant ac ugain oed. Ni fedraf fynd a dod fel yr arferwn wneud, ac y mae'r ARGLWYDD wedi dweud wrthyf na chaf groesi'r Iorddonen hon.
3. Yr ARGLWYDD dy Dduw ei hun fydd yn mynd drosodd ac yn distrywio'r cenhedloedd hyn o'th flaen, a byddi dithau'n meddiannu eu tir dan arweiniad Josua, fel y dywedodd yr ARGLWYDD.
4. Fe wna'r ARGLWYDD iddynt fel y gwnaeth i Sihon ac Og, brenhinoedd yr Amoriaid, ac i'w gwlad pan ddistrywiodd hwy.
5. Rhydd yr ARGLWYDD hwy yn dy ddwylo, a gwna dithau iddynt yn l y cwbl a orchmynnais iti.
6. Bydd yn gryf a dewr; paid 'u hofni na dychryn rhagddynt, oherwydd bydd yr ARGLWYDD dy Dduw yn mynd gyda thi, ac ni fydd yn dy adael nac yn cefnu arnat.
7. Wedi i Moses alw Josua, dywedodd wrtho gerbron Israel gyfan, "Bydd yn gryf a dewr, oherwydd ti sydd i fynd 'r bobl hyn i'r wlad yr addawodd yr ARGLWYDD i'w hynafiaid y byddai'n ei rhoi iddynt; a thi sydd i roi iddynt feddiant ohoni.
8. Bydd yr ARGLWYDD yn mynd o'th flaen, a bydd ef gyda thi; ni fydd yn dy adael nac yn cefnu arnat. Paid ag ofni na dychryn."
9. Ysgrifennodd Moses y gyfraith hon a'i rhoi i'r offeiriaid, meibion Lefi, a oedd yn cludo arch cyfamod yr ARGLWYDD, ac i holl henuriaid Israel hefyd.
10. Gorchmynnodd Moses iddynt, "Ar ddiwedd pob saith mlynedd, yr adeg a bennir yn flwyddyn gollyngdod, ar u373?yl y Pebyll,
11. pan fydd Israel gyfan yn dod i ymddangos gerbron yr ARGLWYDD dy Dduw yn y man y bydd yn ei ddewis, yr wyt ti i gyhoeddi'r gyfraith hon yng ngu373?ydd ac yng nghlyw Israel gyfan.
12. Cynnull y bobl, yn wu375?r, gwragedd a phlant, a'r dieithriaid sy'n byw yn dy drefi, er mwyn iddynt glywed, a dysgu ofni'r ARGLWYDD dy Dduw a gofalu gwneud popeth yn y gyfraith hon.
13. Y mae eu plant hefyd, nad ydynt yn ei gwybod, i wrando arni a dysgu ofni'r ARGLWYDD dy Dduw tra byddant yn byw yn y tir yr wyt yn croesi'r Iorddonen i'w feddiannu."
14. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, "Y mae dydd dy farw yn nesu; galw Josua, a chymerwch eich lle ym mhabell y cyfarfod, er mwyn imi roi gorchymyn iddo." Wedi i Moses a Josua fynd a chymryd eu lle ym mhabell y cyfarfod,
15. ymddangosodd yr ARGLWYDD yn y babell mewn colofn gwmwl, a safodd y golofn gwmwl wrth ddrws y babell.
16. A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, "Gyda hyn byddi'n mynd i orwedd gyda'th hynafiaid, a bydd y bobl hyn yn dechrau puteinio ar l duwiau dieithr y wlad y maent yn mynd i mewn iddi; byddant yn fy ngwrthod i, ac yn torri fy nghyfamod a wneuthum hwy.
17. Yna fe enynnir fy nig yn eu herbyn, a byddaf finnau yn eu gwrthod ac yn cuddio fy wyneb rhagddynt; byddant yn barod i'w difa, a daw llawer o drychinebau ac argyfyngau ar eu llwybr. Y diwrnod hwnnw fe ddywedant, 'Onid am nad yw ein Duw yn ein plith y daeth y drygau hyn i'n rhan?'
18. A byddaf fi'n cuddio fy wyneb yn llwyr rhagddynt y diwrnod hwnnw, oherwydd yr holl ddrygioni a wnaethant wrth droi at dduwiau estron.
19. "Yn awr, ysgrifennwch y gerdd hon a'i dysgu i'r Israeliaid, a pheri iddynt ei hadrodd, fel y bydd yn dyst gennyf yn eu herbyn.
20. Wedi imi ddod hwy i'r tir a addewais i'w hynafiaid, tir yn llifeirio o laeth a ml, lle y cnt fwyta'u gwala a phesgi, byddant yn troi at dduwiau estron ac yn eu gwasanaethu, ond byddant yn fy nirmygu i ac yn torri fy nghyfamod.
21. Yna, pan ddaw llawer o drychinebau ac argyfyngau ar eu llwybr, bydd y gerdd hon yn dyst yn eu herbyn; oherwydd nid 'n angof gan eu disgynyddion. Ond gwn beth y maent eisoes yn bwriadu ei wneud, cyn imi eu dwyn i mewn i'r wlad a addewais iddynt."
22. Ysgrifennodd Moses y gerdd hon y diwrnod hwnnw, a dysgodd hi i'r Israeliaid.
23. A rhoddodd yr ARGLWYDD orchymyn i Josua fab Nun a dweud wrtho, "Bydd yn gryf a dewr, oherwydd ti sydd i ddod 'r Israeliaid i'r wlad a addewais iddynt; a byddaf fi gyda thi."
24. Pan orffennodd Moses ysgrifennu geiriau'r gyfraith hon mewn llyfr, o'r dechrau i'r diwedd,
25. rhoddodd i'r Lefiaid, a oedd yn cludo arch cyfamod yr ARGLWYDD, y gorchymyn hwn:
26. "Cymerwch y llyfr cyfraith hwn, a rhowch ef wrth ochr arch cyfamod yr ARGLWYDD eich Duw, i aros yno'n dyst yn eich erbyn;
27. oherwydd gwn mor wrthnysig a gwargaled ydych. Yn wir, os ydych yn wrthryfelgar yn erbyn yr ARGLWYDD heddiw, a minnau'n dal yn fyw yn eich mysg, pa faint mwy felly y byddwch wedi imi farw!
28. Casglwch ataf holl henuriaid a swyddogion eich llwythau, er mwyn imi lefaru'r geiriau hyn yn eu clyw, a galw nef a daear yn dystion yn eu herbyn.
29. Gwn y byddwch, wedi imi farw, yn ymddwyn yn gwbl lygredig, gan gilio o'r ffordd a orchmynnais ichwi; felly, fe ddaw dinistr ar eich gwarthaf yn y dyddiau sy'n dod, am ichwi wneud yr hyn sy'n ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, a'i ddigio gwaith eich dwylo."
30. Llefarodd Moses eiriau'r gerdd hon, o'i dechrau i'w diwedd, yng nghlyw holl gynulliad Israel.
1. Gwrandewch, chwi nefoedd, a llefaraf; clyw, di ddaear, eiriau fy ngenau.
2. Bydd fy nysgeidiaeth yn disgyn fel glaw, a'm hymadrodd yn diferu fel gwlith, fel glaw mn ar borfa, megis cawodydd ar laswellt.
3. Pan gyhoeddaf enw yr ARGLWYDD, cyffeswch fawredd ein Duw.
4. Ef yw'r Graig; perffaith yw ei waith, a chyfiawn yw ei ffyrdd bob un. Duw ffyddlon heb dwyll yw; un cyfiawn ac uniawn yw ef.
5. Y genhedlaeth wyrgam a throfaus, sy'n ymddwyn mor llygredig tuag ato, nid ei blant ef ydynt o gwbl!
6. Ai dyma eich tl i'r ARGLWYDD, O bobl ynfyd ac angall? Onid ef yw dy dad, a'th luniodd, yr un a'th wnaeth ac a'th sefydlodd?
7. Cofia'r dyddiau gynt, ystyria flynyddoedd y cenedlaethau a fu; gofyn i'th dad, ac fe fynega ef iti; neu i'th hynafgwyr, ac fe ddywedant hwy wrthyt.
8. Pan roddodd y Goruchaf eu hetifeddiaeth i'r cenhedloedd, a gwasgaru'r ddynoliaeth ar led, fe bennodd derfynau'r bobloedd yn l rhifedi plant Duw.
9. Ei bobl ei hun oedd rhan yr ARGLWYDD, Jacob oedd ei etifeddiaeth ef.
10. Fe'i cafodd ef mewn gwlad anial, mewn gwagle erchyll, diffaith; amgylchodd ef a'i feithrin, amddiffynnodd ef fel cannwyll ei lygad.
11. Fel eryr yn cyffroi ei nyth ac yn hofran uwch ei gywion, lledai ei adenydd a'u cymryd ato, a'u cludo ar ei esgyll.
12. Yr ARGLWYDD ei hunan fu'n ei arwain, heb un duw estron gydag ef.
13. Gwnaeth iddo farchogaeth ar uchelderau'r ddaear, a bwyta cnwd y maes; parodd iddo sugno ml o'r clogwyn, ac olew o'r graig gallestr.
14. Cafodd ymenyn o'r fuches, llaeth y ddafad a braster u373?yn, hyrddod o frid Basan, a bychod, braster gronynnau gwenith hefyd, a gwin o sudd grawnwin i'w yfed.
15. Bwytaodd Jacob, a'i ddigoni; pesgodd Jesurun, a chiciodd; pesgodd, a thewychu'n wancus. Gwrthododd y Duw a'i creodd, a diystyru Craig ei iachawdwriaeth.
16. Gwnaethant ef yn eiddigeddus duwiau dieithr, a'i ddigio ag arferion ffiaidd.
17. Yr oeddent yn aberthu i ddemoniaid nad oeddent dduwiau, ac i dduwiau nad oeddent yn eu hadnabod, duwiau newydd yn dod oddi wrth eu cymdogion, nad oedd eu hynafiaid wedi eu parchu.
18. Anghofiaist y Graig a'th genhedlodd, a gollwng dros gof y Duw a ddaeth thi i'r byd.
19. Pan welodd yr ARGLWYDD hyn, fe'u ffieiddiodd hwy, oherwydd i'w feibion a'i ferched ei gythruddo.
20. Dywedodd, "Cuddiaf fy wyneb rhagddynt, edrychaf beth fydd eu diwedd; oherwydd cenhedlaeth wrthryfelgar ydynt, plant heb ffyddlondeb ynddynt.
21. Gwnaethant fi'n eiddigeddus wrth un nad yw'n dduw, a'm digio 'u heilunod; gwnaf finnau hwy'n eiddigeddus wrth bobl nad yw'n bobl, a'u digio chenedl ynfyd.
22. "Yn ddiau, cyneuwyd tn gan fy nig, ac fe lysg hyd waelod Sheol; bydd yn ysu'r tir a'i gynnyrch, ac yn ffaglu seiliau'r mynyddoedd.
23. Pentyrraf ddrygau arnynt, saethaf atynt bob saeth sydd gennyf:
24. nychdod newyn, anrheithiau twymyn, a dinistr chwerw. Anfonaf ddannedd bwystfilod yn eu herbyn a gwenwyn ymlusgiaid y llwch.
25. Oddi allan bydd y cleddyf yn creu amddifaid, ac yn y cartref bydd arswyd; trewir y gwu375?r ifainc a'r gwyryfon fel ei gilydd, y baban sugno yn ogystal 'r hynafgwr.
26. "Fy mwriad oedd eu gwasgaru, a pheri i bob coffa amdanynt ddarfod,
27. oni bai imi ofni y byddai'r gelyn yn eu gwawdio, a'u gwrthwynebwyr yn camddeall a dweud, 'Ein llaw ni sydd wedi trechu; nid yr ARGLWYDD a wnaeth hyn oll.'"
28. Cenedl brin o gyngor ydynt, heb ddealltwriaeth ganddynt;
29. gresyn na fyddent yn ddigon doeth i sylweddoli hyn ac i amgyffred beth fydd eu diwedd!
30. Sut y gall un ymlid mil, neu ddau yrru myrdd ar ffo, oni bai fod eu Craig wedi eu gwerthu, a'r ARGLWYDD wedi eu caethiwo?
31. Oherwydd nid yw eu craig hwy yn debyg i'n Craig ni, fel y mae ein gelynion yn cydnabod.
32. Daw eu gwinwydd o Sodom ac o feysydd Gomorra; grawnwin gwenwynig sydd arnynt, yn sypiau chwerw.
33. Gwenwyn seirff yw eu gwin, poeryn angheuol asbiaid.
34. Onid yw hyn gennyf wrth gefn, wedi ei selio yn fy str,
35. mai i mi y perthyn dial a thalu'r pwyth, pan fydd eu troed yn llithro? Yn wir, y mae dydd eu trychineb yn agos, a'u distryw yn brysio atynt.
36. Rhydd yr ARGLWYDD gyfiawnder i'w bobl a bydd yn trugarhau wrth ei weision, pan wl fod eu nerth wedi darfod, ac nad oes ar l na chaeth na rhydd.
37. Yna fe ddywed, "Ble mae eu duwiau, y graig y buont yn ceisio lloches dani,
38. y duwiau oedd yn bwyta braster eu hebyrth ac yn yfed gwin eu diodoffrwm? Bydded iddynt hwy godi a'ch helpu, a bod yn lloches ichwi!
39. Gwelwch yn awr mai myfi, myfi yw Ef, ac nad oes Duw ond myfi. Myfi sy'n lladd, a gwneud yn fyw, myfi sy'n archolli, ac yn iachu; ni all neb achub o'm gafael i.
40. "Codaf fy llaw tua'r nef, a dweud: Cyn sicred 'm bod yn byw'n dragywydd,
41. os hogaf fy nghleddyf disglair, a chydio ynddo 'm llaw mewn barn, byddaf yn dial ar fy ngwrthwynebwyr ac yn talu'r pwyth i'r rhai sy'n fy nghasu.
42. Gwnaf fy saethau yn feddw gwaed, a bydd fy nghleddyf yn bwyta cnawd, sef gwaed y clwyfedig a'r carcharorion, a phennau arweinwyr y gelyn."
43. Bloeddiwch fawl ei bobl, O genhedloedd, oherwydd y mae'n dial gwaed ei weision! Daw dial ar ei wrthwynebwyr, ac arbed ei dir a'i bobl ei hun.
44. Wedi i Moses ddod gyda Josua fab Nun, llefarodd holl eiriau'r gerdd hon yng nghlyw'r bobl.
45. Pan orffennodd Moses lefaru'r holl eiriau hyn wrth Israel gyfan,
46. meddai wrthynt, "Ystyriwch yn eich calon yr holl eiriau yr wyf yn eu hargymell ichwi heddiw, er mwyn ichwi eu gorchymyn i'ch plant, ac iddynt hwythau ofalu cadw holl eiriau'r gyfraith hon.
47. Oherwydd nid gair dibwys yw hwn i chwi, ond dyma eich bywyd; trwy'r gair hwn yr estynnwch eich dyddiau yn y wlad yr ydych ar fynd dros yr Iorddonen i'w meddiannu."
48. Yn ystod yr un diwrnod llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses a dweud,
49. "Dos i fyny yma i fynydd-dir Abarim, i Fynydd Nebo yng ngwlad Moab, gyferbyn Jericho; ac yna edrych ar wlad Canaan, y wlad yr wyf yn ei rhoi i'r Israeliaid yn etifeddiaeth.
50. Yno, ar y mynydd y byddi'n ei ddringo, y byddi farw, ac y cesglir di at dy bobl, fel y bu i'th frawd Aaron farw ym Mynydd Hor, a'i gasglu at ei bobl,
51. am ichwi fod yn anffyddlon imi yng nghanol yr Israeliaid wrth ddyfroedd Meriba-cades yn anialwch Sin, trwy beidio mynegi fy sancteiddrwydd ymysg yr Israeliaid.
52. Fe gei weld y wlad yn y pellter, ond ni chei ddod drosodd i'r wlad yr wyf yn ei rhoi i'r Israeliaid."
6. Nid wyt yn dymuno aberth ac offrwm rhoddaist imi glustiau agored ac nid wyt yn gofyn poethoffrwm ac aberth dros bechod.
7. Felly dywedais, "Dyma fi'n dod; y mae wedi ei ysgrifennu mewn rhol llyfr amdanaf
8. fy mod yn hoffi gwneud ewyllys fy Nuw, a bod dy gyfraith yn fy nghalon."
9. Bm yn cyhoeddi cyfiawnder yn y gynulleidfa fawr; nid wyf wedi atal fy ngwefusau, fel y gwyddost, O ARGLWYDD.
10. Ni chuddiais dy gyfiawnder yn fy nghalon, ond dywedais am dy gadernid a'th waredigaeth; ni chelais dy gariad a'th wirionedd rhag y gynulleidfa fawr.
11. Paid tithau, ARGLWYDD, ag atal dy dosturi oddi wrthyf; bydded dy gariad a'th wirionedd yn fy nghadw bob amser.
12. Oherwydd y mae drygau dirifedi wedi cau amdanaf; y mae fy nghamweddau wedi fy nal fel na allaf weld; y maent yn fwy niferus na gwallt fy mhen, ac y mae fy nghalon yn suddo.
11. Derfydd cyfoeth a gafwyd yn ddiymdrech, ond o'i gasglu bob yn dipyn fe gynydda.
12. Y mae'r gobaith a oedir yn clafychu'r galon, ond y dymuniad a gyflawnir yn bren bywiol.
31. " phwy gan hynny y cymharaf bobl y genhedlaeth hon? I bwy y maent yn debyg?
32. Y maent yn debyg i'r plant sy'n eistedd yn y farchnad ac yn galw ar ei gilydd fel hyn: 'Canasom ffliwt i chwi, ac ni ddawnsiasoch; canasom alarnad, ac nid wylasoch.'
33. Oherwydd y mae Ioan Fedyddiwr wedi dod, un nad yw'n bwyta bara nac yn yfed gwin, ac yr ydych yn dweud, 'Y mae cythraul ynddo.'
34. Y mae Mab y Dyn wedi dod, un sy'n bwyta ac yn yfed, ac yr ydych yn dweud, 'Dyma feddwyn glwth, cyfaill i gasglwyr trethi a phechaduriaid.'
35. Ac eto profir gan bawb o'i phlant fod doethineb Duw yn gywir."
36. Gwahoddodd un o'r Phariseaid Iesu i bryd o fwyd gydag ef. Aeth ef i du375?'r Pharisead a chymryd ei le wrth y bwrdd.
37. A dyma wraig o'r dref oedd yn bechadures yn dod i wybod ei fod wrth bryd bwyd yn nhu375?'r Pharisead. Daeth ffiol alabastr o ennaint,
38. a sefyll y tu l iddo wrth ei draed gan wylo. Yna dechreuodd wlychu ei draed 'i dagrau a'u sychu gwallt ei phen; ac yr oedd yn cusanu ei draed ac yn eu hiro 'r ennaint.
39. Pan welodd hyn dywedodd y Pharisead oedd wedi ei wahodd wrtho'i hun, "Pe bai hwn yn broffwyd, byddai'n gwybod pwy yw'r wraig sy'n cyffwrdd ag ef, a sut un yw hi. Pechadures yw hi."
40. Atebodd Iesu ef, "Simon, y mae gennyf rywbeth i'w ddweud wrthyt." Meddai yntau, "Dywed, Athro."
41. "Yr oedd gan fenthyciwr arian ddau ddyledwr," meddai Iesu. "Pum cant o ddarnau arian oedd dyled un, a hanner cant oedd ar y llall.
42. Gan nad oeddent yn gallu talu'n l, diddymodd y benthyciwr eu dyled i'r ddau. Prun ohonynt, gan hynny, fydd yn ei garu fwyaf?"
43. Atebodd Simon, "Fe dybiwn i mai'r un y diddymwyd y ddyled fwyaf iddo." "Bernaist yn gywir," meddai ef wrtho.
44. A chan droi at y wraig, meddai wrth Simon, "A weli di'r wraig hon? Deuthum i mewn i'th du375?, ac ni roddaist ddu373?r imi at fy nhraed; ond hon, gwlychodd hi fy nhraed 'i dagrau a'u sychu 'i gwallt.
45. Ni roddaist gusan imi; ond nid yw hon wedi peidio chusanu fy nhraed byth er pan ddeuthum i mewn.
46. Nid iraist fy mhen ag olew; ond irodd hon fy nhraed ag ennaint.
47. Am hynny rwy'n dweud wrthyt, y mae ei phechodau, er cynifer ydynt, wedi eu maddau; oherwydd y mae ei chariad yn fawr. Os mai ychydig a faddeuwyd i rywun, ychydig yw ei gariad."
48. Ac wrth y wraig meddai, "Y mae dy bechodau wedi eu maddau."
49. Yna dechreuodd y gwesteion eraill ddweud wrthynt eu hunain, "Pwy yw hwn sydd hyd yn oed yn maddau pechodau?"
50. Ac meddai ef wrth y wraig, "Y mae dy ffydd wedi dy achub di; dos mewn tangnefedd."
Welsh Bible 2004
Cymdeithas y Beibl 2004 British and Foreign Bible Society 2004