Beibl mewn un flwyddyn

1. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,
2. "Dywed wrth bobl Israel am ddod ag offrwm i mi, a derbyniwch oddi wrth bob un yr offrwm y mae'n ei roi o'i wirfodd.
3. Dyma'r offrwm yr ydych i'w dderbyn ganddynt: aur, arian ac efydd;
4. sidan glas, porffor ac ysgarlad, a lliain main; blew geifr,
5. crwyn hyrddod wedi eu lliwio'n goch, a chrwyn morfuchod; coed acasia,
6. olew ar gyfer y lampau, perlysiau ar gyfer olew'r ennaint a'r arogldarth peraidd;
7. meini onyx, a gemau i'w gosod yn yr effod a'r ddwyfronneg.
8. Y maent hefyd i wneud cysegr, er mwyn i mi drigo yn eu plith.
9. Yr ydych i'w wneud yn unol 'r cynllun o'r tabernacl, a'i holl ddodrefn, yr wyf yn ei ddangos i ti.
10. "Y maent i wneud arch o goed acasia, dau gufydd a hanner o hyd, cufydd a hanner o led, a chufydd a hanner o uchder.
11. Yr wyt i'w goreuro ag aur pur oddi mewn ac oddi allan, ac yr wyt i wneud ymyl aur o'i hamgylch.
12. Yna yr wyt i lunio pedair dolen gron o aur ar gyfer ei phedair congl, dwy ar y naill ochr a dwy ar y llall.
13. Gwna bolion o goed acasia a'u goreuro,
14. a'u gosod yn y dolennau ar ochrau'r arch, i'w chario.
15. Y mae'r polion i aros yn nolennau'r arch heb eu symud oddi yno;
16. yr wyt i roi yn yr arch y dystiolaeth yr wyf yn ei rhoi iti.
17. Gwna drugareddfa o aur pur, dau gufydd a hanner o hyd, a chufydd a hanner o led;
18. gwna hefyd ar gyfer y naill ben a'r llall i'r drugareddfa ddau gerwb o aur wedi ei guro.
19. Gwna un yn y naill ben a'r llall yn y pen arall, yn rhan o'r drugareddfa.
20. Y mae dwy adain y cerwbiaid i fod ar led, fel eu bod yn gorchuddio'r drugareddfa; y mae'r cerwbiaid i wynebu ei gilydd, 'u hwynebau tua'r drugareddfa.
21. Yr wyt i roi'r drugareddfa ar ben yr arch, a rhoi yn yr arch y dystiolaeth y byddaf yn ei rhoi i ti.
22. Yno byddaf yn cyfarfod thi, ac oddi ar y drugareddfa, rhwng y ddau gerwb sydd ar arch y dystiolaeth, y byddaf yn mynegi iti yr holl bethau yr wyf yn eu gorchymyn i bobl Israel.
23. "Yr wyt i wneud bwrdd o goed acasia, dau gufydd o hyd, cufydd o led, a chufydd a hanner o uchder,
24. a'i oreuro ag aur pur drosto, a gwneud ymyl aur o'i amgylch.
25. Gwna ffrm o led llaw o'i gwmpas, a chylch aur o amgylch y ffrm.
26. Yr wyt hefyd i wneud ar ei gyfer bedair dolen aur, a'u clymu wrth y pedair coes yn y pedair congl.
27. Bydd y dolennau sydd ar ymyl y ffrm yn dal y polion sy'n cludo'r bwrdd.
28. Yr wyt i wneud y polion a fydd yn cludo'r bwrdd o goed acasia, a'u goreuro.
29. Gwna lestri a dysglau ar ei gyfer, a ffiolau a chostrelau i dywallt y diodoffrwm; yr wyt i'w gwneud o aur pur.
30. Yr wyt i roi'r bara gosod ar y bwrdd o'm blaen yn wastadol.
31. "Gwna ganhwyllbren o aur pur. Y mae gwaelod y canhwyllbren a'i baladr i'w gwneud o ddeunydd gyr, ac y mae'r pedyll, y cnapiau a'r blodau i fod yn rhan o'r cyfanwaith.
32. Bydd chwe chainc yn dod allan o ochrau'r canhwyllbren, tair ar un ochr a thair ar y llall.
33. Ar un gainc bydd tair padell ar ffurf almonau, a chnap a blodeuyn arnynt, a thair ar y gainc nesaf; dyma fydd ar y chwe chainc sy'n dod allan o'r canhwyllbren.
34. Ar y canhwyllbren ei hun, bydd pedair padell ar ffurf almonau, a chnapiau a blodau arnynt,
35. a bydd un o'r cnapiau dan bob pr o'r chwe chainc sy'n dod allan o'r canhwyllbren.
36. Bydd y cnapiau a'r ceinciau yn rhan o'r canhwyllbren, a bydd y cyfan o aur pur ac o ddeunydd gyr.
37. Yr wyt i wneud ar ei gyfer saith llusern, a'u gosod fel eu bod yn goleuo'r gwagle o gwmpas.
38. Bydd ei efeiliau a'i gafnau o aur pur.
39. Yr wyt i wneud y canhwyllbren a'r holl lestri hyn o un dalent o aur pur.
40. Ond gofala dy fod yn eu gwneud yn l y patrwm a ddangoswyd i ti ar y mynydd.
1. "Gwna'r tabernacl o ddeg llen o liain main wedi ei nyddu ac o sidan glas, porffor ac ysgarlad, a cherwbiaid wedi eu gwno'n gywrain arnynt.
2. Bydd pob llen yn wyth cufydd ar hugain o hyd a phedwar cufydd o led, pob llen yr un maint.
3. Bydd pump o'r llenni wedi eu cydio wrth ei gilydd, a'r pump arall hefyd wedi eu cydio wrth ei gilydd.
4. Gwna ddolennau glas ar hyd ymyl y llen sydd ar y tu allan i'r naill gydiad a'r llall.
5. Gwna hanner cant o ddolennau ar un llen, a hanner cant ar hyd ymyl y llen ar ben yr ail gydiad, gyda'r dolennau gyferbyn 'i gilydd.
6. Gwna hefyd hanner cant o fachau aur, a chydia'r llenni wrth ei gilydd 'r bachau er mwyn i'r tabernacl fod yn gyfanwaith.
7. "Gwna un ar ddeg o lenni o flew geifr i fod yn babell dros y tabernacl.
8. Bydd pob llen yn ddeg cufydd ar hugain o hyd a phedwar cufydd o led, pob llen yr un maint.
9. Cydia hwy wrth ei gilydd yn bum llen ac yn chwe llen, a gwna'r chweched yn ddwbl dros wyneb y babell.
10. Gwna hanner cant o ddolennau ar hyd ymyl y llen ar y tu allan i'r naill gydiad a'r llall.
11. "Gwna hanner cant o fachau pres a'u rhoi yn y dolennau i ddal y babell wrth ei gilydd yn gyfanwaith.
12. Bydd yr hyn sydd dros ben o lenni'r babell, sef yr hanner llen, yn hongian y tu l i'r tabernacl.
13. Ar y ddwy ochr bydd y cufydd o lenni'r babell sydd dros ben yn hongian dros y tabernacl i'w orchuddio.
14. Gwna do i'r babell o grwyn hyrddod wedi eu lliwio'n goch ac o grwyn morfuchod.
15. "Gwna hefyd ar gyfer y tabernacl fframiau syth o goed acasia,
16. pob un ohonynt yn ddeg cufydd o hyd a chufydd a hanner o led,
17. a dau denon ym mhob ffrm i'w cysylltu 'i gilydd; gwna hyn i holl fframiau'r tabernacl.
18. Yr wyt i wneud y fframiau ar gyfer y tabernacl fel hyn: ugain ffrm ar yr ochr ddeheuol,
19. a deugain troed arian oddi tanynt, dau i bob ffrm ar gyfer ei dau denon;
20. ar yr ail ochr i'r tabernacl, sef yr ochr ogleddol, bydd ugain ffrm
21. a deugain troed arian, dau dan bob ffrm;
22. yng nghefn y tabernacl, sef yr ochr orllewinol, gwna chwe ffrm,
23. a dwy arall ar gyfer conglau cefn y tabernacl,
24. wedi eu cysylltu yn y pen a'r gwaelod bach; bydd y ddwy ffrm yr un fath, ac yn ffurfio'r ddwy gongl.
25. Felly bydd wyth ffrm ac un ar bymtheg o draed arian, dau droed dan bob ffrm.
26. "Gwna hefyd farrau o goed acasia, pump ar gyfer fframiau'r naill ochr i'r tabernacl,
27. pump ar gyfer fframiau'r ochr arall, a phump ar gyfer y fframiau yng nghefn y tabernacl, sef yr ochr orllewinol.
28. Bydd y bar sydd ar ganol y fframiau yn ymestyn o un pen i'r llall.
29. Yr wyt i oreuro'r fframiau, a gwneud bachau aur i osod y barrau trwyddynt; yr wyt hefyd i oreuro'r barrau.
30. Yr wyt i adeiladu'r tabernacl yn l y cynllun a ddangoswyd iti ar y mynydd.
31. "Gwna orchudd o sidan glas, porffor ac ysgarlad, ac o liain main wedi ei nyddu, a cherwbiaid wedi eu gwno'n gywrain arno.
32. Gosod ef bachau aur ar bedair colofn o goed acasia, wedi eu goreuro ac yn sefyll ar bedwar troed arian.
33. Rho'r gorchudd ar y bachau, a chludo arch y dystiolaeth oddi tano; bydd y gorchudd yn gwahanu rhwng y cysegr a'r cysegr sancteiddiaf.
34. Rho'r drugareddfa ar arch y dystiolaeth yn y cysegr sancteiddiaf.
35. Gosod y bwrdd y tu allan i'r gorchudd, ar ochr ogleddol y tabernacl, a'r canhwyllbren gyferbyn 'r bwrdd, ar yr ochr ddeheuol.
36. "Ar gyfer drws y babell gwna len o sidan glas, porffor ac ysgarlad, ac o liain main wedi ei nyddu a'i frodio.
37. Ar gyfer y llen gwna bum colofn o goed acasia wedi eu goreuro, a bachau aur, a llunia o bres bum troed ar eu cyfer.
7. Y mae cyfraith yr ARGLWYDD yn berffaith, yn adfywio'r enaid; y mae tystiolaeth yr ARGLWYDD yn sicr, yn gwneud y syml yn ddoeth;
8. y mae deddfau'r ARGLWYDD yn gywir, yn llawenhau'r galon; y mae gorchymyn yr ARGLWYDD yn bur, yn goleuo'r llygaid;
9. y mae ofn yr ARGLWYDD yn ln, yn para am byth; y mae barnau'r ARGLWYDD yn wir, yn gyfiawn bob un.
10. Mwy dymunol ydynt nag aur, na llawer o aur coeth, a melysach na ml, ac na diferion diliau ml.
11. Trwyddynt hwy hefyd rhybuddir fi, ac o'u cadw y mae gwobr fawr.
12. Pwy sy'n dirnad ei gamgymeriadau? Glanha fi oddi wrth fy meiau cudd.
13. Cadw dy was oddi wrth bechodau beiddgar, rhag iddynt gael y llaw uchaf arnaf. Yna byddaf yn ddifeius, ac yn ddieuog o bechod mawr.
14. Bydded geiriau fy ngenau'n dderbyniol gennyt, a myfyrdod fy nghalon yn gymeradwy i ti, O ARGLWYDD, fy nghraig a'm prynwr.
32. Felly, y mae'r godinebwr yn un disynnwyr, ac yn ei ddifetha'i hun wrth wneud hynny;
33. caiff niwed ac amarch, ac ni ddilir ei warth.
34. Oherwydd y mae eiddigedd yn cynddeiriogi gu373?r priod, ac nid yw'n arbed pan ddaw cyfle i ddial;
35. ni fyn dderbyn iawndal, ac nis bodlonir, er cymaint a roddi.
1. Aeth Iesu allan o'r deml, a phan oedd ar ei ffordd oddi yno daeth ei ddisgyblion ato i dynnu ei sylw at adeiladau'r deml.
2. Dywedodd yntau wrthynt, "Oni welwch yr holl bethau hyn? Yn wir, 'rwy'n dweud wrthych, ni adewir yma faen ar faen; ni bydd yr un heb ei fwrw i lawr."
3. Fel yr oedd yn eistedd ar Fynydd yr Olewydd daeth y disgyblion ato o'r neilltu a gofyn, "Dywed wrthym pa bryd y bydd hyn, a beth fydd yr arwydd o'th ddyfodiad ac o ddiwedd amser?"
4. Atebodd Iesu hwy, "Gwyliwch na fydd i neb eich twyllo.
5. Oherwydd fe ddaw llawer yn fy enw i gan ddweud, 'Myfi yw'r Meseia', ac fe dwyllant lawer.
6. Byddwch yn clywed am ryfeloedd a sn am ryfeloedd; gofalwch beidio chyffroi, oherwydd rhaid i hyn ddigwydd, ond nid yw'r diwedd eto.
7. Oblegid cyfyd cenedl yn erbyn cenedl, a theyrnas yn erbyn teyrnas, a bydd adegau o newyn a daeargrynfu mewn mannau.
8. Ond dechrau'r gwewyr fydd hyn oll.
9. Yna fe'ch traddodir i gael eich cosbi a'ch lladd, a chas fyddwch gan bob cenedl o achos fy enw i.
10. A'r pryd hwnnw bydd llawer yn cwympo ymaith; byddant yn bradychu ei gilydd a chasu ei gilydd.
11. Fe gyfyd llawer o broffwydi gau a thwyllant lawer.
12. Ac am fod drygioni yn amlhau bydd cariad llawer iawn yn oeri.
13. Ond y sawl sy'n dyfalbarhau i'r diwedd a gaiff ei achub.
14. Ac fe gyhoeddir yr Efengyl hon am y deyrnas drwy'r byd i gyd fel tystiolaeth i'r holl genhedloedd, ac yna y daw'r diwedd.
15. "Felly, pan welwch 'y ffieiddbeth diffeithiol', y soniodd y proffwyd Daniel amdano, yn sefyll yn y lle sanctaidd" dealled y darllenydd
16. "yna ffoed y rhai sydd yn Jwdea i'r mynyddoedd.
17. Y sawl sydd ar ben y tu375?, peidied mynd i lawr i gipio'i bethau o'i du375?;
18. a'r sawl sydd yn y cae, peidied throi yn ei l i gymryd ei fantell.
19. Gwae'r gwragedd beichiog a'r rhai sy'n rhoi'r fron yn y dyddiau hynny!
20. A gweddwch na fyddwch yn gorfod ffoi yn y gaeaf nac ar y Saboth,
21. oblegid y pryd hwnnw bydd gorthrymder mawr na fu ei debyg o ddechrau'r byd hyd yn awr, ac na fydd byth chwaith.
22. Ac oni bai fod y dyddiau hynny wedi eu byrhau, ni fuasai neb byw wedi ei achub; ond er mwyn yr etholedigion fe fyrheir y dyddiau hynny.
23. Yna, os dywed rhywun wrthych, 'Edrych, dyma'r Meseia', neu 'Dacw ef', peidiwch 'i gredu.
24. Oherwydd fe gyfyd gau-feseiu a gau-broffwydi, a rhoddant arwyddion mawr a rhyfeddodau nes arwain ar gyfeiliorn hyd yn oed yr etholedigion, petai hynny'n bosibl.
25. Yn awr yr wyf wedi dweud wrthych ymlaen llaw.
26. Felly, os dywedant wrthych, 'Dyma ef yn yr anialwch', peidiwch mynd allan; neu os dywedant, 'Dyma ef mewn ystafelloedd o'r neilltu', peidiwch 'u credu.
27. Oherwydd fel y mae'r fellten yn dod o'r dwyrain ac yn goleuo hyd at y gorllewin, felly y bydd dyfodiad Mab y Dyn.
28. Lle bynnag y bydd y gelain, yno yr heidia'r fwlturiaid.
Welsh Bible 2004
Cymdeithas y Beibl 2004 British and Foreign Bible Society 2004