Beibl mewn un flwyddyn Rhagfyr 1Daniel 5:1-301. Roedd y brenin Belshasar wedi trefnu gwledd i fil o'i uchel-swyddogion. A dyna ble roedd e'n yfed gwin o'i blaen nhw i gyd.2. Pan oedd y gwin wedi mynd i'w ben dyma Belshasar yn gorchymyn dod â'r llestri aur ac arian oedd ei ragflaenydd, Nebwchadnesar, wedi eu cymryd o'r deml yn Jerwsalem. Roedd am yfed ohonyn nhw, gyda'i uchel-swyddogion, ei wragedd a'i gariadon i gyd.3. Felly dyma nhw'n dod â'r llestri aur ac arian oedd wedi eu cymryd o deml Duw yn Jerwsalem. A dyma'r brenin a'i uchel-swyddogion, ei wragedd a'i gariadon yn yfed ohonyn nhw.4. Wrth yfed y gwin roedden nhw'n canmol eu duwiau — eilun-dduwiau wedi eu gwneud o aur, arian, pres, haearn, pren a charreg.5. Yna'n sydyn roedd bysedd llaw ddynol i'w gweld yng ngolau'r lamp, yn ysgrifennu rhywbeth ar wal blastr yr ystafell. Roedd y brenin yn gallu gweld y llaw yn ysgrifennu.6. Aeth yn welw gan ddychryn. Roedd ei goesau'n wan a'i liniau'n crynu.7. Gwaeddodd yn uchel a galw am ei ddewiniaid, y dynion doeth a'r swynwyr. Dwedodd wrthyn nhw “Bydd pwy bynnag sy'n darllen yr ysgrifen a dweud beth mae'n ei olygu yn cael ei anrhydeddu — bydd yn cael ei wisgo mewn porffor, yn cael cadwyn aur am ei wddf, ac yn cael y drydedd swydd uchaf yn y deyrnas.”8. Felly dyma'r dynion doeth i gyd yn dod i mewn, ond allai run ohonyn nhw ddarllen yr ysgrifen na dweud beth oedd ei ystyr.9. Erbyn hyn roedd y brenin Belshasar wedi dychryn am ei fywyd. Roedd yn wyn fel y galchen ac roedd ei uchel-swyddogion i gyd wedi drysu'n lân.10. Pan glywodd y fam frenhines yr holl sŵn roedd y brenin a'i uchel-swyddogion yn ei wneud, aeth i mewn i'r neuadd fwyta. “O frenin! Boed i ti fyw am byth!” meddai. “Paid dychryn. Paid eistedd yna'n welw.11. Mae yna ddyn yn dy deyrnas sydd ag ysbryd y duwiau sanctaidd ynddo. Pan oedd Nebwchadnesar yn frenin, daeth yn amlwg fod gan y dyn yma ddirnadaeth, deall, a doethineb fel petai'n un o'r duwiau ei hun. Gwnaeth Nebwchadnesar e yn brif swynwr, ac roedd yn bennaeth ar yr dewiniaid, swynwyr a'r dynion doeth i gyd.12. Roedd yna rywbeth cwbl arbennig am y dyn yma, Daniel (gafodd yr enw Belteshasar gan y brenin). Roedd ganddo feddwl anarferol o graff, gwybodaeth a gallu i esbonio ystyr breuddwydion, egluro posau, a datrys problemau cymhleth. Galw am Daniel, a bydd e'n dweud wrthot ti beth mae'r ysgrifen yn ei olygu.”13. Felly dyma nhw'n dod â Daniel at y brenin. A dyma'r brenin yn gofyn iddo, “Ai ti ydy'r Daniel gafodd ei gymryd yn gaeth o Jwda gan fy rhagflaenydd, y brenin Nebwchadnesar?14. Dw i wedi clywed fod ysbryd y duwiau sanctaidd ynot ti, a bod gen ti ddirnadaeth, a deall, a doethineb anarferol.15. Dw i wedi gofyn i'r dynion doeth a'r swynwyr ddarllen ac esbonio'r ysgrifen yma i mi, ond dŷn nhw ddim yn gallu.16. Ond dw i wedi cael ar ddeall dy fod ti'n gallu dehongli pethau a datrys problemau cymhleth. Felly, os gelli di ei ddarllen a dweud wrtho i beth mae'n ei olygu, byddi'n cael dy wisgo mewn porffor, yn cael cadwyn aur am dy wddf, ac yn cael y drydedd swydd uchaf yn y deyrnas.”17. Ond dyma Daniel yn ateb y brenin, “Cadwch eich rhoddion a'u rhoi nhw i rywun arall. Ond gwna i ddweud wrth y brenin beth ydy ystyr yr ysgrifen.18. Eich mawrhydi, roedd y Duw Goruchaf wedi rhoi awdurdod brenhinol ac ysblander mawr i Nebwchadnesar eich rhagflaenydd chi.19. Roedd Duw wedi ei wneud mor fawr nes bod gan bawb o bob gwlad ac iaith ei ofn. Roedd yn lladd pwy bynnag roedd e'n dewis ei ladd, ac yn arbed pwy bynnag oedd e eisiau. Doedd dim dal pwy fyddai e'n ei anrhydeddu, a pwy fyddai'n ei sathru nesa.20. Ond trodd yn ddyn balch ac ystyfnig, cymerodd Duw ei orsedd a'i anrhydedd oddi arno.21. Cafodd ei gymryd allan o gymdeithas. Roedd yn meddwl ei fod yn anifail ac yn byw gyda'r asynnod gwyllt. Roedd yn bwyta glaswellt fel ychen, a'i gorff yn cael ei wlychu gan wlith yn yr awyr agored. Bu felly nes iddo ddeall mai'r Duw Goruchaf sy'n teyrnasu dros lywodraethau'r byd, a'i fod yn eu rhoi i bwy bynnag mae e eisiau.22. “Roeddech chi, Belshasar, yn gwybod hyn i gyd, ond dych chithau wedi bod yr un mor falch.23. Dych chi wedi herio Arglwydd y nefoedd, drwy gymryd llestri ei deml a'i defnyddio nhw i yfed gwin ohonyn nhw — chi a'ch uchel-swyddogion, gyda'ch gwragedd a'ch cariadon i gyd. Ac wedyn dych chi wedi canmol eich duwiau o aur, arian, pres, haearn, pren a charreg — duwiau sy'n gweld, clywed na deall dim! Ond dych chi ddim wedi canmol y Duw sy'n rhoi anadl i chi fyw, ac sy'n dal eich bywyd a'ch tynged yn ei law!24. Dyna pam anfonodd e'r llaw i ysgrifennu'r neges yma.25. “Dyma beth sydd wedi ei ysgrifennu: MENE, MENE, TECEL, a PHARSIN26. A dyma ystyr y geiriau: Ystyr MENE ydy ‛cyfrif‛. Mae dyddiau eich teyrnasiad wedi eu rhifo. Mae Duw'n dod â nhw i ben.27. Ystyr TECEL ydy ‛pwyso‛. Chi wedi'ch pwyso yn y glorian, a'ch cael yn brin.28. Ystyr PARSIN ydy ‛rhannu‛. Mae'ch teyrnas wedi ei rhannu'n ei hanner a'i rhoi i Media a Persia.”29. Dyma Belshasar yn gorchymyn fod Daniel i gael ei wisgo mewn porffor, i gael cadwyn aur am ei wddf, ac i'w ddyrchafu i'r drydedd swydd uchaf yn y deyrnas.30. Ond ar y noson honno cafodd Belshasar, brenin Babilon, ei lofruddio.Daniel 6:1-281. Dyma Dareius yn penderfynu rhannu'r deyrnas gyfan yn gant dau ddeg o daleithiau, a penodi pennaeth ar bob un.2. Byddai penaethiaid y taleithiau yma yn atebol i dri comisiynydd, ac roedd Daniel yn un o'r rheiny. Y tri comisiynydd oedd yn gofalu am bethau ar ran y brenin.3. Yn fuan iawn daeth hi'n amlwg fod Daniel yn llawer mwy galluog na'r comisiynwyr eraill a penaethiaid y taleithiau i gyd — roedd ganddo allu cwbl anarferol. Yn wir, roedd y brenin yn bwriadu rhoi'r deyrnas i gyd dan ei ofal.4. O ganlyniad i hynny roedd y comisiynwyr eraill a penaethiaid y taleithiau eisiau ffeindio bai ar y ffordd roedd Daniel yn delio gyda gweinyddiaeth y deyrnas. Ond roedden nhw'n methu dod o hyd i unrhyw sgandal na llygredd. Roedd Daniel yn gwbl ddibynadwy. Doedd dim tystiolaeth o unrhyw esgeulustod na thwyll.5. “Does gynnon ni ddim gobaith dod â cyhuddiad yn erbyn y Daniel yma, oni bai ein bod yn dod o hyd i rywbeth sy'n gysylltiedig â chyfraith ei Dduw,” medden nhw.6. Felly dyma'r comisiynwyr a penaethiaid y taleithiau yn cynllwyn gyda'i gilydd, ac yn mynd at y brenin a dweud wrtho, “Frenin Dareius, bydd fyw am byth!7. Mae comisiynwyr y deyrnas, yr uchel-swyddogion, penaethiaid y taleithiau, a chynghorwyr y brenin, a'r llywodraethwyr yn meddwl y byddai'n syniad da i'r brenin wneud cyfraith newydd yn gorchymyn fel hyn: ‘Am dri deg diwrnod mae pawb i weddïo arnoch chi, eich mawrhydi. Os ydy rhywun yn gweddïo ar unrhyw dduw neu ar unrhyw berson arall, bydd yn cael ei daflu i ffau'r llewod.’8. Felly, eich mawrhydi, cyhoeddwch y gwaharddiad ac arwyddo'r ddogfen, fel ei bod yn gwbl amhosib i'w newid. Bydd yn rhan o gyfraith Media a Persia, sy'n aros, a byth i gael ei newid.”9. Felly dyma'r brenin Dareius yn arwyddo'r gwaharddiad.10. Pan glywodd Daniel fod y gyfraith yma wedi ei harwyddo, aeth adre, a mynd ar ei liniau i weddïo fel roedd wedi gwneud bob amser. Roedd ganddo ystafell i fyny'r grisiau, a'i ffenestri'n agor i gyfeiriad Jerwsalem. Dyna ble roedd yn mynd dair gwaith bob dydd i weddïo ar Dduw a diolch iddo.11. Dyma'r dynion oedd wedi cynllwyn gyda'i gilydd yn mynd i dŷ Daniel, a'i gael yno'n gweddïo ac yn gofyn i Dduw am help.12. Felly dyma nhw'n mynd yn ôl at y brenin, ac yn ei atgoffa am y gwaharddiad. “Wnaethoch chi ddim arwyddo cyfraith yn gwahardd pobl am dri deg diwrnod rhag gweddïo ar unrhyw dduw na neb arall ond chi eich hun, eich mawrhydi? Ac yn dweud y byddai unrhyw un sy'n gwneud hynny yn cael ei daflu i'r llewod?” “Do, yn bendant,” meddai'r brenin. “Mae bellach yn rhan o gyfraith Media a Persia, sydd byth i gael ei newid.”13. Yna dyma nhw'n dweud wrth y brenin, “Dydy'r dyn Daniel yna, oedd yn un o'r caethion o Jwda, yn cymryd dim sylw ohonoch chi na'ch gwaharddiad eich mawrhydi. Mae'n dal ati i weddïo ar ei Dduw dair gwaith bob dydd.”14. Pan glywodd y brenin hyn, doedd e ddim yn hapus o gwbl. Roedd yn ceisio meddwl am ffordd i achub Daniel. Buodd wrthi drwy'r dydd yn ceisio meddwl am ffordd y gallai ei helpu.15. Ond gyda'r nos dyma'r dynion yn mynd yn ôl gyda'i gilydd at y brenin, ac yn dweud wrtho, “Cofiwch, eich mawrhydi, fod y gwaharddiad yn rhan o gyfraith Media a Persia. Dydy cyfraith sydd wedi cael ei harwyddo gan y brenin byth i gael ei newid.”16. Felly dyma'r brenin yn gorchymyn dod â Daniel ato, a'i fod i gael ei daflu i ffau'r llewod. Ond meddai'r brenin wrth Daniel, “Bydd dy Dduw, yr un rwyt ti'n ei addoli mor ffyddlon, yn dy achub di.”17. Cafodd carreg fawr ei rhoi dros geg y ffau, a dyma'r brenin yn gosod ei sêl arni gyda'i fodrwy, a'i uchel-swyddogion yr un fath, fel bod dim modd newid tynged Daniel.18. Yna dyma'r brenin yn mynd yn ôl i'w balas. Wnaeth e fwyta dim byd y noson honno. Gwrthododd gael ei ddifyrru, ac roedd yn methu'n lân a cysgu drwy'r nos.19. Pan oedd hi'n dechrau gwawrio'r bore wedyn dyma'r brenin yn brysio yn ôl at ffau'r llewod,20. ac wrth agosáu at y ffau dyma fe'n galw ar Daniel mewn llais pryderus, “Daniel! Gwas y Duw byw. Ydy'r Duw wyt ti'n ei addoli mor ffyddlon wedi gallu dy achub di rhag y llewod?”21. A dyma Daniel yn ateb, “O frenin! Boed i chi fyw am byth!22. Ydy, mae fy Nuw wedi anfon ei angel i gau cegau'r llewod, a dŷn nhw ddim wedi mrifo i o gwbl. Achos roeddwn i'n ddieuog yng ngolwg Duw — ac yn eich golwg chi hefyd, eich mawrhydi. Wnes i ddim drwg i chi.”23. Roedd y brenin wrth ei fodd, a dyma fe'n gorchymyn codi Daniel allan o'r ffau. Dyma nhw'n gwneud hynny, a doedd e ddim mymryn gwaeth, am ei fod wedi trystio'i Dduw.24. Wedyn dyma'r brenin yn gorchymyn fod y dynion oedd wedi ymosod mor giaidd ar Daniel yn cael eu harestio, a'i taflu i ffau'r llewod — a'u gwragedd a'u plant gyda nhw. Cyn iddyn nhw gyrraedd gwaelod y ffau roedd y llewod arnyn nhw ac wedi eu rhwygo nhw'n ddarnau.25. Dyma'r brenin Dareius yn ysgrifennu at y bobl i gyd, o bob gwlad ac iaith — pawb drwy'r byd i gyd: “Heddwch a llwyddiant i chi i gyd!26. Dw i'n cyhoeddi fod pawb sy'n byw o fewn ffiniau'r deyrnas dw i'n frenin arni, i ofni a pharchu Duw Daniel. Fe ydy'r Duw byw, ac mae e gyda ni bob amser! Fydd ei deyrnas byth yn syrthio, a bydd ei awdurdod yn aros am byth.27. Mae e'n achub ei bobl, ac yn gwneud gwyrthiau rhyfeddol yn y nefoedd ac ar y ddaear. Mae wedi achub Daniel o afael y llewod!”28. Felly roedd Daniel yn llwyddiannus iawn yn ystod teyrnasiad Dareius, sef Cyrus o Persia.Salmau 136:10-2610. Fe wnaeth daro plant hynaf yr Aifft, Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!11. a dod ag Israel allan o'u canol nhw, Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!12. gyda nerth a chryfder rhyfeddol. Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!13. Fe wnaeth hollti'r Môr Coch, Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!14. a gadael i Israel fynd trwy ei ganol, Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!15. Fe wnaeth daflu'r Pharo a'i fyddin i'r Môr Coch, Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!16. ac arwain ei bobl drwy'r anialwch. Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!17. Fe wnaeth daro brenhinoedd cryfion i lawr, Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!18. a lladd brenhinoedd enwog — Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!19. Sihon, brenin yr Amoriaid, Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!20. ac Og, brenin Bashan. Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!21. Rhoddodd eu tir yn etifeddiaeth — Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!22. yn etifeddiaeth i bobl Israel, sy'n ei wasanaethu. Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!23. Cofiodd amdanon ni pan oedden ni'n isel, Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!24. a'n hachub ni o afael ein gelynion, Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!25. Fe sy'n rhoi bwyd i bob creadur byw, Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!26. Rhowch ddiolch i'r Duw sy'n y nefoedd! Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!Diarhebion 29:12-1312. Pan mae llywodraethwr yn gwrando ar gelwydd, mae ei swyddogion i gyd yn ddrwg.13. Mae un peth sy'n wir am y cyfoethog a'r tlawd: yr ARGLWYDD sydd wedi rhoi bywyd i'r ddau.2 Pedr 2:1-221. Ond roedd proffwydi ffals hefyd yn Israel bryd hynny, a bydd athrawon ffals yn codi yn eich plith chithau. Byddan nhw'n sleifio i mewn gyda heresïau sy'n arwain i ddinistr. A hyd yn oed yn mynd mor bell a gwadu awdurdod y Meistr brynodd ryddid iddyn nhw oddi wrth bechod! Byddan nhw'n dwyn dinistr arnyn nhw eu hunain yn fuan iawn.2. Bydd llawer o bobl yn eu dilyn ac yn rhoi penrhyddid llwyr i'w chwantau rhywiol. Bydd y wir ffordd at Dduw yn cael enw drwg ganddyn nhw.3. Byddan nhw'n ceisio manteisio arnoch chi a chael eich arian chi drwy adrodd straeon celwyddog. Maen nhw wedi cael eu dedfrydu i gael eu cosbi ers amser maith, a dydy'r ddedfryd ddim wedi ei hanghofio. Mae'r dinistr sy'n dod arnyn nhw ar ei ffordd!4. Wnaeth Duw ddim hyd yn oed arbed yr angylion oedd yn euog o bechu yn ei erbyn. Anfonodd nhw i uffern, a'u rhwymo yn nhywyllwch dudew y byd tanddaearol i ddisgwyl cael eu cosbi.5. Wnaeth e ddim arbed yr hen fyd chwaith. Anfonodd lifogydd y dilyw i foddi'r byd oedd yn llawn o bobl oedd yn tynnu'n groes iddo. Dim ond Noa a saith aelod o'i deulu gafodd eu harbed. Noa oedd yr unig un oedd yn galw ar bobl i fyw yn ufudd i Dduw.6. Wedyn cafodd trefi Sodom a Gomorra eu llosgi'n ulw, a'u gwneud yn esiampl o beth sy'n mynd i ddigwydd i bobl annuwiol.7. Ond cafodd Lot ei achub o Gomorra am ei fod e yn ddyn oedd yn gwneud beth oedd yn iawn. Roedd yn torri ei galon wrth weld ymddygiad diegwyddor a phenrhyddid llwyr pobl o'i gwmpas.8. Roedd Lot yn ceisio gwneud beth oedd yn iawn yng ngolwg Duw. Roedd yn cael ei boeni'n enbyd gan y pethau ofnadwy roedd yn ei weld ac yn ei glywed o'i gwmpas.9. Felly mae'r Arglwydd yn gwybod yn iawn sut i achub pobl dduwiol o ganol eu treialon. Ond mae'n cadw pobl ddrwg i'w cosbi pan ddaw dydd y farn.10. Mae Duw yn arbennig o llym wrth gosbi'r rhai hynny sy'n gwneud dim ond dilyn eu chwantau. Pobl sy'n gadael i'w natur bechadurus lygredig reoli eu bywydau, ac sy'n wfftio awdurdod yr Arglwydd. Maen nhw mor haerllug ac mor siŵr ohonyn nhw eu hunain does ganddyn nhw ddim ofn enllibio'r diafol a'i angylion.11. Dydy hyd yn oed angylion Duw, sy'n llawer cryfach a mwy pwerus na nhw, ddim yn eu henllibio nhw wrth eu cyhuddo o flaen Duw.12. Ond mae'r bobl yma fel anifeiliaid direswm yn dilyn eu greddfau. Maen nhw'n enllibio pethau dŷn nhw ddim yn eu deall. A byddan nhw hefyd yn cael eu dal a'u dinistrio yn y diwedd.13. Byddan nhw'n cael eu talu yn ôl am y drwg maen nhw wedi ei wneud! Eu syniad nhw o hwyl ydy rhialtwch gwyllt yng ngolau dydd. Maen nhw fel staen ar eich cymdeithas chi, yn ymgolli yn eu pleserau gwag wrth eistedd i wledda gyda chi.14. Rhyw ydy'r unig beth sydd ar eu meddyliau nhw wrth edrych ar wragedd, ac maen nhw o hyd ac o hyd yn edrych am gyfle i bechu. Maen nhw'n taflu abwyd i ddal y rhai sy'n hawdd i'w camarwain. Maen nhw'n arbenigwyr ar gymryd mantais o bobl. Byddan nhw'n cael eu melltithio!15. Maen nhw wedi crwydro oddi ar y ffordd iawn a dilyn esiampl Balaam fab Beor oedd wrth ei fodd yn cael ei dalu am wneud drwg.16. Ond wedyn cafodd ei geryddu am hynny gan asyn! — anifail mud yn siarad gyda llais dynol ac yn achub y proffwyd rhag gwneud peth hollol wallgof!17. Mae'r bobl yma fel ffynhonnau heb ddŵr ynddyn nhw! Cymylau sy'n cael eu chwythu i ffwrdd gan gorwynt! Mae'r tywyllwch dudew yn barod i'w llyncu nhw!18. Mae eu geiriau gwag nhw a'u brolio di-baid, a'r penrhyddid rhywiol fel abwyd yn denu pobl — a'r bobl hynny ddim ond newydd lwyddo i ddianc o'r math o fywyd mae'r paganiaid yn ei fyw.19. Maen nhw'n addo rhyddid i bobl, ond maen nhw eu hunain yn gaeth i bethau sy'n arwain i ddinistr! — achos “mae rhywun yn gaeth i beth bynnag sydd wedi ei drechu.”20. Os ydy pobl wedi dianc o'r bywyd aflan sydd yn y byd trwy ddod i nabod ein Harglwydd a'n Hachubwr Iesu Grist, ac wedyn yn cael eu dal a'u rheoli gan yr un pethau eto, “maen nhw mewn gwaeth cyflwr yn y diwedd nag oedden nhw ar y dechrau!”21. Byddai'n well iddyn nhw beidio gwybod o gwbl am y ffordd iawn, na bod wedi dod o hyd i'r ffordd honno ac wedyn troi eu cefnau ar y ddysgeidiaeth dda gafodd ei basio ymlaen iddyn nhw.22. Mae'r hen ddihareb yn wir!: “Mae ci'n mynd yn ôl at ei chwŷd.” Ydy, “Mae hwch, ar ôl ymolchi, yn mynd yn ôl i orweddian yn y mwd.” Welsh Bible 2021 (BNET) © Cymdeithas y Beibl 2021