Cymharu Fersiwn y Beibl

1
Dyma Iesu'n mynd i mewn i gwch a chroesi'r llyn yn ôl i'w dref ei hun.
2
A dyma rhyw bobl yn dod â dyn wedi ei barlysu ato, yn gorwedd ar fatras. Pan welodd Iesu eu ffydd nhw, dwedodd wrth y dyn oedd wedi ei barlysu, “Cod dy galon, ffrind; mae dy bechodau wedi eu maddau.”
3
Dyma rhai o'r arbenigwyr yn y Gyfraith yn dweud wrth ei gilydd, “Mae'r dyn yma'n cablu!”
Welsh Bible 2023 (BNET)
Cymdeithas y Beibl 2023
1
Aeth Iesu i mewn i gwch a chroesi'r mr a dod i'w dref ei hun.
2
A dyma hwy'n dod dyn wedi ei barlysu ato, yn gorwedd ar wely. Pan welodd Iesu eu ffydd hwy dywedodd wrth y claf, "Cod dy galon, fy mab; maddeuwyd dy bechodau."
3
A dyma rai o'r ysgrifenyddion yn dweud ynddynt eu hunain, "Y mae hwn yn cablu."
Welsh Bible 2004
Cymdeithas y Beibl 2004 British and Foreign Bible Society 2004
1
Ac efe a aeth i mewn i'r llong, ac a aeth trosodd, ac a ddaeth i'w ddinas ei hun.
2
Ac wele, hwy a ddygasant ato ŵr claf o'r parlys, yn gorwedd mewn gwely: a'r Iesu yn gweled eu ffydd hwy, a ddywedodd wrth y claf o'r parlys, Ha fab, cymer gysur; maddeuwyd i ti dy bechodau.
3
Ac wele, rhai o'r ysgrifenyddion a ddywedasant ynddynt eu hunain, Y mae hwn yn cablu.
Welsh Bible 1955
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor. The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible 1955 British and Foreign Bible Society
1
Ac fe aeth i long, a chroesodd, a daeth i’w ddinas ei hun.
2
A dyna hwy’n dwyn ato un parlysedig yn gorwedd ar wely. A phan welodd yr Iesu eu ffydd hwynt, fe ddywedodd wrth y parlysedig, “Cod dy galon, fy mab, maddeuwyd dy bechodau.”
3
A dyna rai o’r ysgrifenyddion yn dywedyd ynddynt eu hunain, “Mae hwn yn cablu.”
Welsh Bible 1945
Urdd y Graddedigion, Prifysgol Cymru 1945 Guild of Graduates, University of Wales 1945
1
Ac wedi myned i mewn i gwch, yr aeth Efe trosodd, a daeth i’w ddinas Ei hun.
2
Ac wele, dygasant Atto ŵr claf o’r parlys, yn gorwedd ar wely; a chan weled o’r Iesu eu ffydd, dywedodd wrth y claf o’r parlys, Bydd hyderus, fy mab, maddeuwyd dy bechodau di.
3
Ac wele, rhai o’r ysgrifenyddion a ddywedasant ynddynt eu hunain, Y mae hwn yn cablu.
Welsh Bible 1894
Cyfieithiad Briscoe 1894. Cynhyrchwyd y casgliad digidol hwn gan Gymdeithas y Beibl yn 2020-21
1
Ac efe a aeth i fewn i gwch, ac a aeth drosodd, ac a ddaeth i'w Ddinas ei hun.
2
Ac wele, hwy a ddygasant ato un parlysig, yn gorwedd ar wely; a'r Iesu yn gweled eu ffydd hwy a ddywedodd wrth y parlysig, Ymwrola, fab, maddeuir dy bechodau.
3
Ac wele, rhai o'r Ysgrifenyddion a ddywedasant ynddynt eu hunain, Y mae hwn yn cablu.
Welsh Bible 1894
Cyfieithiad Newydd o'r Testament Newydd gyda Nodiadau gan Dr William Edwards. Cyhoeddwyd mewn 4 cyfrol 1894-1915
1
AC ef aeth y mewn ir llong, ac aeth trosawdd, ac a ddeuth y’w ddinas ehun.
2
A’nycha, wy a dducesant ataw wr claf o’r parlys, yn gorwedd mewn gwely. A’r Iesu yn gweled y ffydd wy, a ddyvot wrth y claf o’r parlys, Y map, ymddiriet: maddeuwyt y ty dy pechatae.
3
A’ nycha, yr ei or Gwyr‐llen a ddywedėt wrthyn ehunain, Y mae hwn yn caply.
Welsh Bible 1567
Cyhoeddwyd gyntaf yn 1567, a’i ddigideiddio i Gymdeithas y Beibl yn 2016