Os gwnewch roi, byddwch yn derbyn. Cewch lawer iawn mwy yn ôl — wedi ei wasgu i lawr, a'i ysgwyd i wneud lle i fwy! Bydd yn gorlifo! Y mesur dych chi'n ei ddefnyddio i roi fydd yn cael ei ddefnyddio i roi'n ôl i chi.”
Mae'r rhai sy'n galaru wedi eu bendithio'n fawr, oherwydd byddan nhw'n cael eu cysuro.
Bydd Duw yn rhoi popeth sydd arnoch ei angen i chithau — mae ganddo stôr rhyfeddol o gyfoeth i'w rannu gyda ni sy'n perthyn i'r Meseia Iesu.
O Dduw, bendithia ni! Wedyn bydd pobl drwy'r byd i gyd yn dy addoli.
[24] ‘Boed i'r ARGLWYDD eich bendithio chi a'ch amddiffyn chi. [25] Boed i'r ARGLWYDD wenu'n garedig arnoch chi, a bod yn hael tuag atoch chi.
[6] Peidiwch gadael i ddim byd eich poeni chi. Gweddïwch, a gofyn i Dduw am bopeth sydd arnoch ei angen, a byddwch yn ddiolchgar bob amser. [7] Byddwch chi'n profi'r heddwch perffaith mae Duw'n ei roi — y daioni sydd tu hwnt i bob dychymyg — yn gwarchod eich calonnau a'ch meddyliau wrth i chi ddilyn y Meseia Iesu.
Mae pob rhoi, a phob haelioni yn dod oddi wrth Dduw yn y nefoedd uchod. Fe ydy'r Tad a greodd y sêr a'r planedau, ond dydy ei oleuni e ddim yn amrywio, a dydy e byth yn taflu cysgodion tywyll.
[7] Ond mae yna fendith fawr i'r rhai sy'n fy nhrystio i ac yn rhoi eu hyder ynof fi. [8] Byddan nhw'n gryf fel coeden wedi ei phlannu ar lan afon, a'i gwreiddiau'n ymwthio i'r dŵr. Dydy'r gwres crasboeth yn poeni dim arni hi; mae ei dail yn aros yn wyrdd. A does dim lle i boeni pan ddaw blwyddyn o sychder; bydd ei ffrwyth yn dal i dyfu arni.
Paid bod ag ofn, achos dw i gyda ti. Paid dychryn — fi ydy dy Dduw di! Dw i'n dy nerthu di ac yn dy helpu di, Dw i'n dy gynnal di ac yn dy achub di hefo fy llaw dde.
Ynddo fe mae un fendith hael wedi cael ei rhoi yn lle'r llall — a hynny i bob un ohonon ni!
[16] “Mae'r ARGLWYDD yn dweud, ‘Dw i'n addo hyn ar fy llw: Am dy fod ti wedi gwneud beth wnest ti (roeddet ti'n fodlon aberthu dy fab i mi — yr unig fab sydd gen ti), [17] dw i'n mynd i dy fendithio di go iawn a rhoi cymaint o ddisgynyddion i ti ag sydd o sêr yn yr awyr. Byddan nhw fel y tywod ar lan y môr. A byddan nhw'n concro dinasoedd eu gelynion.
[28] Boed i Dduw roi gwlith o'r awyr i ti, a chnydau gwych o'r tir, — digonedd o ŷd a grawnwin. [29] Boed i bobloedd eraill dy wasanaethu di, a gwledydd eraill ymgrymu o dy flaen. Byddi'n feistr ar dy frodyr, a bydd meibion dy fam yn ymgrymu o dy flaen. Bydd Duw yn melltithio pawb sy'n dy felltithio di, ac yn bendithio pawb sy'n dy fendithio di!”
[1] Mae'r un sy'n gwrthod gwrando ar gyngor pobl ddrwg wedi ei fendithio'n fawr; yr un sydd ddim yn cadw cwmni pechaduriaid, nac yn eistedd gyda'r rhai sy'n gwneud dim byd ond dilorni pobl eraill; [2] yr un sydd wrth ei fodd yn gwneud beth mae'r ARGLWYDD eisiau, ac yn myfyrio ar y pethau mae'n eu dysgu ddydd a nos. [3] Bydd fel coeden wedi ei phlannu wrth ffrydiau o ddŵr, yn dwyn ffrwyth yn ei thymor, a'i dail byth yn gwywo. Beth bynnag mae'n ei wneud, bydd yn llwyddo.
[1] Salm Dafydd. [1] Yr ARGLWYDD ydy fy mugail i; mae gen i bopeth dw i angen. [2] Mae'n mynd â fi i orwedd mewn porfa hyfryd; ac yn fy arwain at ddŵr glân sy'n llifo'n dawel. [3] Mae'n rhoi bywyd newydd i mi, ac yn dangos i mi'r ffordd iawn i fynd. Ydy, mae e'n enwog am ei ofal. [4] Hyd yn oed mewn ceunant tywyll dychrynllyd, fydd gen i ddim ofn, am dy fod ti gyda mi. Mae dy ffon a dy bastwn yn fy amddiffyn i.
[3] Mae fy Nuw yn graig i mi lechu dani; yn darian, yn gryfder ac yn hafan ddiogel. Mae'n fy achub i rhag trais. [4] Gelwais ar yr ARGLWYDD sy'n haeddu ei foli, ac achubodd fi oddi wrth fy ngelynion.
Dŷn ni'n gwybod bod y rhai sydd wedi eu geni'n blant i Dduw ddim yn dal ati i bechu. Mae Mab Duw yn eu cadw nhw'n saff, a dydy'r Un drwg ddim yn gallu gwneud niwed iddyn nhw.
Pan dw i mewn trafferthion, rwyt yn fy achub o afael y gelyn gwyllt; ti'n estyn dy law gref i'm helpu.
Mae Duw'n gallu rhoi mwy na digon o bethau'n hael i chi, er mwyn i chi fod â popeth sydd arnoch ei angen, a bydd digonedd dros ben i chi allu gwneud gwaith da bob amser.
Byddwch chi'n profi'r heddwch perffaith mae Duw'n ei roi — y daioni sydd tu hwnt i bob dychymyg — yn gwarchod eich calonnau a'ch meddyliau wrth i chi ddilyn y Meseia Iesu.